Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, drwy arfer ei bwerau o dan adrannau 14(1)(b) a 15(1)(a) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (fel y’i diwygiwyd) a phob pŵer galluogi arall, yn bwriadu cau, i bob cerddwr, hyd y llwybr fel y disgrifir yn fwy penodol yn yr atodlen isod am y cyfnod hwyaf a nodir.
ATODLEN
Lleoliad Y llwybr troed (hawl dramwy gyhoeddus) a elwir yn 339/63/1, hyd 73m, o Gyf GC 313647Dn, 209876G i Gyf GC 313665Dn, 209805G
Llwybr Amgen Ar hyd y FFORDD FYNEDIAD I YSTAD DDIWYDIANNOL ASHVALE ac yna ar hyd y TRAC Y TU CEFN I YSTAD DDIWYDIANNOL GWENT WAY
Rheswm I atal perygl i’r cyhoedd – mae’r safle adeiladu yn anniogel
Hyd O 4pm ddydd Gwener 17 Mai 2024 am gyfnod o 6 mis ar y mwyaf neu hyd nes y bydd y gwaith wedi’i gwblhau, p’un
bynnag yw’r cynharaf
Dyddiedig y 25ain diwrnod hwn o Ebrill 2024
Kevin Kinsey B.Eng.(Anrh), MBA., C.Eng., MICE
Rheolwr Gwasanaethau Seilwaith
Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN