Cyflwyno mannau parcio i bobl anabl

Deddf rheoleiddio traffig ffyrdd 1984

Gorchymyn gorfodi parcio sifil a chydgrynhoi (gwahardd a chyfyngu ar aros a llwytho a mannau parcio ar y stryd) 2019 (rhif diwygio 18)

Rhoddir hysbysiad drwy hyn fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, yn unol â Rheoliadau Gorchmynion Traffig Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn) (Cymru a Lloegr) 1996 a Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (y cyfeirir ati o hyn ymlaen fel “y Ddeddf”), fel y’I diwygiwyd, a Rhan IV o Atodlen 9 i’r Ddeddf, a Deddf Rheoli Traffig 2004 (Deddf ‘2004’) a phob pŵer galluogi arall, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu, yn cynnig gwneud y gorchymyn uchod a diwygio’r cyfyngiadau ar y ffyrdd canlynol fel yr amlinellir isod ac yn yr atodlen:

• Mae’r cyngor yn cynnig gwneud Gorchymyn Diwygio Rhif 18, a fydd â’r effaith gyffredinol o ddiwygio Gorchymyn Cydgrynhoi Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Mannau Parcio ar y Stryd) 2019 (“y Gorchymyn Cydgrynhoi”) er mwyn sicrhau defnydd diogel ac effeithlon o’r rhwydwaith priffyrdd.

• Effaith y gorchymyn fydd:

° Cyflwyno mannau parcio i bobl anabl fel y nodir yn yr atodlen mesuriadau yn:

• 138 Ffordd Gwent, Tredegar

• 92 Teras y Glyn, Tredegar

• 28 Stryd yr Eglwys, Abertyleri

Diddymu mannau parcio i bobl anabl fel y nodir yn yr atodlen mesuriadau yn:

• 4 Byngalo Penrhiwgarreg, Heol Penrhiwgarreg, Abertyleri

• Ffordd Gwent, Tredegar

• 7 Teras Gwalia, Blaenau

• Stryd y Neuadd, Abertyleri

Mae manylion llawn y cynigion hyn yn y gorchymyn drafft, sydd, ynghyd â chynllun sy’n dangos yr ardal gyfyngedig a datganiad o resymau’r cyngor dros gynnig gwneud y gorchymyn, ar gael ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a byddant felly tan ddiwedd y cyfnod o 21 diwrnod o’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad hwn.

 

Os ydych chi am wrthwynebu’r gorchymyn arfaethedig, dylech anfon y sail dros eich gwrthwynebiad yn ysgrifenedig at y sawl sydd wedi llofnodi isod erbyn 14 Awst 2025. Bydd angen cyflwyno gwrthwynebiadau drwy e-bost neu drwy ysgrifennu at y Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol fel yr amlinellir isod. E-bost: BSEnvAndRegen@blaenau-gwent.gov. uk neu ysgrifennwch at: Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN

DYDDIEDIG: 24 Gorffennaf 2024

CLIVE ROGERS

Head of Community Services

Dogfennau Cysylltiedig