A4048, Heol Newydd / Heol Casnewydd, Tredegar (Terfyn Cyflymder 40 Mya a 50 Mya) 2026

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, wrth arfer ei bwerau o dan adran 84 (1) (a) a (2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a phob pŵer galluogi arall, ac ar ôl ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu yn unol â Rhan III o Atodlen 9 i’r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y gorchymyn canlynol:

1. Yn y gorchymyn hwn, oni nodir yn wahanol, mae unrhyw gyfeiriad at erthygl neu atodlen â rhif yn gyfeiriad at yr erthygl neu’r atodlen sy’n dwyn y rhif hwnnw yn y gorchymyn hwn.

2. Ni chaiff unrhyw berson yrru unrhyw gerbyd modur ar gyflymder sy’n fwy na 40 (pedwar deg) milltir yr awr ar y darn o ffordd a bennir yn Atodlen 2 ac Atodlen 4 i’r gorchymyn hwn.

3. Ni chaiff unrhyw berson yrru unrhyw gerbyd modur ar gyflymder sy’n fwy na 50 (pum deg) milltir yr awr ar y darn o ffordd a bennir yn Atodlen 1, Atodlen 3 ac Atodlen 5 i’r gorchymyn hwn.

Daw’r gorchymyn hwn i rym ar XXXXX a gellir cyfeirio ato fel Gorchymyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (A4048, Heol Newydd / Heol Casnewydd, Tredegar) (40 mya a 50 mya) 2026.

ATODLEN 1

TERFYN CYFLYMDER 50 MYA

A4048 / Cilgant Pochin, Cylchfan Tredegar

Cilgant Pochin: o’i chyffordd â’r gylchfan am bellter o 22 metr i gyfeiriad y dwyrain.

Ffordd yr A4048: o’i chyffordd â chylchfan Heol Newydd / Cilgant Pochin am bellter o 25 metr i gyfeiriad y gogledd.

O’i chyffordd â chylchfan yr A4048 / Cilgant Pochin am bellter o 1.2 km i gyfeiriad y de.

ATODLEN 2

TERFYN CYFLYMDER 40 MYA

A4048

O bwynt 1.2 km o’i chyffordd â chylchfan yr A4048 i bwynt 107 metr i’r de o’r troad i Byllau Bedwellte am bellter o tua 318 metr i gyfeiriad y de-ddwyrain.

ATODLEN 3

TERFYN CYFLYMDER 50 MYA

A4048

O bwynt 107 metr i’r de o’r troad i Byllau Bedwellte i bwynt 183 metr i’r gogledd o’r troad i Dai Pochin am bellter o tua 1.17 km i gyfeiriad y de.

ATODLEN 4

TERFYN CYFLYMDER 40 MYA

A4048

O bwynt 183 metr i’r gogledd o'r troad i Dai Pochin i bwynt 153 metr i’r de o’r troad i Dai Pochin am bellter o tua 336 metr i gyfeiriad y de.

ATODLEN 5

TERFYN CYFLYMDER 50 MYA

A4048 Heol Casnewydd, Tredegar

O bwynt 153 metr i’r de o’r troad i Dai Pochin am bellter o tua 1.1 km i gyfeiriad y de.

Rhoddwyd o dan sêl gyffredin Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar y trydydd diwrnod hwn 6 o Awst 2026.

 

Gosodwyd sêl gyffredin                                    )

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent           )

yma ym mhresenoldeb:                                    )

Swyddog Awdurdodedig

_________________________________________________

Mark Thomas

Cyd-gyfarwyddwr Cymdogaethau a’r Amgylchedd

Dogfennau Cysylltiedig