Etholiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent 2022

Gwybodaeth i Ymgeiswyr ac Asiantau

Gofynnir i chi nodi y daeth deddfwriaeth newydd i rym ym mis Rhagfyr ar gyfer yr etholiadau ym mis Mai 2022 a bydd yn newid y prosesau etholiad o’r hyn oeddent mewn blynyddoedd blaenorol. Bydd y tudalennau dilynol yn rhoi sylw i’r holl newidiadau ond er gwybodaeth y ddeddfwriaeth newydd yw Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 sy’n effeithio ar broses Cynghorau Sir a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) Cymru 2021 ar gyfer etholiadau Cynghorau Cymuned/Tref.

Croeso i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ar gyfer ymgeiswyr ac asiantau sydd â diddordeb mewn sefyll ar gyfer etholiad i naill ai’r Cyngor Sir neu Gyngor Tref/Cymuned ym Mlaenau Gwent.

Sefyll ar gyfer etholiad fel cynghorydd

Os ydych yn angerddol am eich cymuned ac eisiau gwneud gwahaniaeth yn lleol. Bydd angen i chi fod yn barod i gymryd penderfyniadau heriol.

Pa etholiadau a gynhelir

Cynhelir Etholiadau Cyngor Sir ym mis Mai 2022 i ethol 33 Cynghorydd Sir i eistedd ar y Cyngor Sir.

Cynhelir etholiadau Cynghorau Cymuned a Thref hefyd ar yr un diwrnod ar gyfer cynghorwyr cymuned/tref.

Am y Cyngor

Mae’r Cyngor Sir yn gyfrifol am wneud penderfyniadau ar lawer o wahanol feysydd gwasanaeth fel Addysg a Gofal Cymdeithasol sy’n effeithio ar fywyd bob dydd preswylwyr.  Mae mwy o wybodaeth ar sut mae Cynghorau yn gweithio ar gael yma https://www.byddwchyngynghorydd.cymru/am-gynghorau-lleol.

Caiff cynghorwyr eu hethol i gynrychioli’r gymuned a’i phreswylwyr ac i wneud penderfyniadau am sut y caiff gwasanaethau lleol eu darparu, eu cyllido a’u blaenoriaethu. Mae mwy o wybodaeth ar gael yma https://www.byddwchyngynghorydd.cymrubeth-mae-cynghorwyr-yn-wneud.

Cwrdd â rhai Cynghorwyr

https://www.byddwchyngynghorydd.cymru/cwrdd-a-rhai-cynghorwyr

Pa gefnogaeth a gaf fel Cynghorydd?

Mae gan Gynghorwyr hawl i dderbyn cyflog yn ôl am yr ymrwymiad a’r cyfraniad a wnânt i’r gymuned leol.

Mae pob cynghorydd yn derbyn cyflog sylfaenol. Mae’n £14,368 yn 2021/22. Mae gan gynghorwyr hefyd hawl i lwfansau teithio. Gallwch hefyd hawlio eich cyflog tra’ch bod yn cymryd absenoldeb teuluol megis absenoldeb rhiant. Gellir hefyd hawlio am ad-daliad am gostau gofal a geir pan fyddwch yn ymgymryd â’ch dyletswyddau fel cynghorydd.

Bydd y cynghorwyr hynny sy’n ymgymryd â chyfrifoldebau ychwanegol tebyg i fod yn aelod cabinet, cadeirydd pwyllgor neu arweinydd eu grŵp gwleidyddol yn derbyn taliad ychwanegol. Gelwir hyn yn uwch gyflog a chaiff ei gyfrif yn seiliedig ar faint y Cyngor. Nid yw cynghorwyr yn gosod eu cyflogau eu hunain; caiff y fframwaith ar gyfer cyflogau cynghorwyr ei osod gan gorff a elwir yn Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Mae mwy o wybodaeth ar y Panel ar gael yma.

Caiff cyflogau ar gyfer blwyddyn 2022/23 y Cyngor ei benderfynu’n derfynol  tua mis Chwefror 2022.
Mae gan gynghorwyr hefyd fynediad i’r cynllun pensiwn llywodraeth leol.

Bydd pob cyngor yn cynnal rhaglen cyfeiriadu ar gyfer aelodau newydd i ddangos ble a phwy yw pawb, a ddilynir gan raglen gynefino i’ch helpu i ddeall eich rôl, gweithdrefnau’r cyngor a’r sgiliau ymarferol rydych eu hangen, er enghraifft i gadeirio cyfarfod neu gymryd rhan mewn cyfweliad radio. Caiff hyfforddiant parhaus ei ddarparu yn ôl yr hyn rydych ei angen.

Mae cynghorwyr yn treulio o leiaf gyfwerth â thri diwrnod yr wythnos ar fusnes y cyngor, ond mae llawer yn disgrifio’r swydd fel un lawn amser. Mae llawer o gyflogwyr yn cydnabod gwerth gwaith cynghorwyr a’r sgiliau y bydd eu gweithwyr cyflogedig yn eu hennill yn y rôl, felly maent yn rhoi amser i ffwrdd neu’n caniatáu gweithio hyblyg ar gyfer gweithwyr cyflogedig sydd hefyd yn gynghorwyr.

Sesiwn Wybodaeth i Ddarpar Ymgeiswyr

16 Chwefror 2022 10am-12pm
8 Mawrth 2022 6-8pm

Sesiwn Wybodaeth i Ymgeiswyr

12 Ebrill 2022 10am-12pm
21 Ebrill 2022 6-8pm

Cysylltwch â’r Swyddog Etholiadau ar 01495 355090 neu anfon e-bost i melanie.rogers@blaenau-gwent.gov.uk i archebu lle yn unrhyw un o’r sesiynau.