Rheoli Pla

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn darparu gwasanaeth rheoli pla domestig mewn partneriaeth gyda Rentokil Pest Control.Y mathau pla yr ydym yn eu trin:

  • Llygod mawr (mae triniaethau llygod mawr yn rhad ac am ddim ar gyfer pob safle domestig)

  • Llygod

  • Pycs

  • Chwilod du

  • Chwain

  • Morgrug gardd du

  • Clêr heidiog

  • Crics tŷ, pryfed popty a physgod arian

  • Gwyfynod dillad

  • Nythod cacwn

Mae’r gwasanaeth rheoli pla yn gweithredu rhwng 8.30am a 5pm ar ddyddiau Llun i ddyddiau Gwener. (Dylid nodi nad yw’r gwasanaeth yn gweithredu ar wyliau cyhoeddus).I drefnu triniaeth pla, cysylltwch â Rentokil ar 0203 535 9370 neu lenwi a chyflwyno’r  ffurflen ar-lein.

Darllenwch Ffioedd Rheoli Pla i gael gwybodaeth am y costau ar gyfer y gwasanaeth yma.

Triniaethau Llygoden Fawr – Gwybodaeth bellach

Pan fydd gweithiwr rheoli pla yn ymweld i drin llygoad mawr gall fod tri llwybr gweithredu:

  • Dynodi llygod mawr – gosod abwyd gwenwynig i drin heigiad

  • Dim yn dynodi heigiad presennol o lygod mawr – gosod abwyd heb fod yn wenwynig i ddynodi heigiad posibl

  • Gweithiwr yn dychwelyd i gasglu unrhyw abwyd gwenwynig na chafodd ei fwyta

Datblygwyd taflenni i roi gwybodaeth i ddefnyddwyr y gwasanaeth m yr hyn i’w ddisgwyl fel canlyniad i bob math o ymweliad a medrir cael y rhain drwy ddilyn y dolenni ar ochr y dudalen hon.
Mae Rentokil hefyd yn darparu gwasanaethau rheoli pla i safleoedd masnachol a diwydiannol. Cysylltwch â Rentokil Paswt Control yn uniongyrchol i gael prisiau'r triniaethau hyn.
 
I gael gwybodaeth am blâu ymwelwch â gwefan Cymdeithas Brydeinig Rheoli Pla.

Dogfennau Cysylltiedig