Safonau Tai
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn gyfrifol am orfodaeth safonau tai ym Mlaenau Gwent.
Mae gwasanaethau yn cynnwys:
- Ymchwilio problemau mewn tai rhent a chynnal asesiadau dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai i sicrhau fod unrhyw safle preswyl yn darparu amgylchedd iach a diogel ar gyfer unrhyw ddarpar feddiannwr neu ymwelydd.
- Rhoi cyngor i landlordiaid a thenantiaid sector preifat.
- Delio gyda niwsans cyhoeddus a statudol megis safleoedd brwnt, safleoedd niweidiol, lleithder o adeiladau cyfagos, mwg drwy’r wal gydrannol
- Delio gydag adeiladau gwag
- Delio gydag aflonyddu gan landlord neu droi allan yn anghyfreithlon.
- Delio gyda thai aml-feddiannaeth a thrwyddedu tai aml-feddiannaeth.
- Archwiliadau mewnfudo. Yn aml bydd person sy’n dymuno dod ag aelod o’r teulu nad yw’n breswyl yn y Deyrnas Unedig i’r Deyrnas Unedig angen tystiolaeth fod eu hannedd arfaethedig yn addas.
Gwybodaeth landlordiaid
Hunan-asesiad Landlordiaid System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai
Canllawiau Landlord System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai
Cyngor Twf Lleithder a Llwydni
Canllawiau Landlordiaid ar Ddiogelwch Nwy
Canllawiau Landlordiaid ar Ddiogelwch Trydanol
Canllawiau Landlordiaid i Ddiogelwch Tân
Rhentu Doeth Cymru – Canllawiau a Dogfennau Defnyddiol i’w Lawrlwytho
Gwybodaeth i denantiaid
Cyngor Twf Lleithder a Llwydni
Rhentu Doeth Cymru – Gwybodaeth i Denantiaid
Rhentu Doeth Cymru
Mae’n ofyniad cyfreithiol i landlordiaid ac asiantau fod wedi cofrestru a/neu drwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru. Os ydych yn berchen, yn rhentu mas, yn rheoli a/neu yn byw mewn eiddo ar rent yna bydd y gyfraith hon yn effeithio arnoch. I ganfod mwy ac i wneud cais ewch i www.rhentudoeth.llyw.cymru neu ffonio 03000 133344.
Isafswm Gofynion Effeithiolrwydd Ynni
Mae’n rhaid i bob tŷ ar rent preifat yn awr gyrraedd isafswm o raddiad effeithiolrwydd ynni E yn unol gyda Rheoliadau Effeithiolrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) (Lloegr a Chymru) 2015. Bernir fod unrhyw eiddo rhent domestig nad yw’n cyrraedd yr isafswm gofynion yn anghyfreithlon a gall y landlord fod yn destun cosb sifil o hyd at £5000. Mae rhai eithriadau. I gael mwy o wybodaeth ewch i:
Gofynion Mesur Effeithiolrwydd Ynni – Rhentu Doeth Cymru (llyw.cymru)
Cymorth ariannol ar gyfer gwelliannau effeithiolrwydd ynni – Rhentu Doeth Cymru (llyw.cymru)
Dogfen canllawiau’r Llywodraeth ac eithriadau
Gall cymorth ariannol hefyd fod ar gael gan y Cyngor – (bydd dolen ar gael yn fuan)
Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC) – Mae graddiad ynni adeiladau ar gael ar yr EPC ac mae copi o’r dystysgrif ar gael yn www.epcregister.com.
Dolenni Defnyddiol Eraill
Deddf Rhentu Cartrefi: Mae’r Ffordd Rydych yn Rhentu wedi Newid - Rhentu Doeth Cymru (llyw.cymru)
Mae cyfraith rhentu yn newid: Rhentu Cartrefi Cymru (llyw.cyrmru)
Rhentu Cartrefi: Ffioedd Gosod ac yn y blaen (Taliadau a Ganiateir) Rheolau a Chanllawiau
Adrodd Problem
I gael mwy o wybodaeth neu i wneud cwyn am gyflwr tai anfonwch e-bost at environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk neu ffonio 01495 369542
Caiff Cwynion am Safonau Tai eu trin yn unol â Pholisi Gorfodaetu Safonau Tai y Cyngor