Mae gwaith Tîm Llygredd y Cyngor parthed llygredd sŵn yn bennaf yn ymwneud â rheoli allyriadau sŵn i mewn i’r amgylchedd. Bydd lefel ac amledd sŵn yn dderbyniol i un person a heb fod yn dderbyniol i berson arall a gallai ostwng ansawdd bywyd person.
Mae gan y Cyngor ddyletswydd i ymchwilio i gwynion ynghylch sŵn sy’n deilio o safleoedd domestig neu fasnachol, larwm cerbyd neu gyfarpar mecanyddol, dan Ddeddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 Rhan 111 – niwsans Statudol a’r Ddeddf Sŵn 1996.
Ar gyfartaledd rydym yn ymchwilio i dros 400 o gwynion ynghylch niwsans sŵn bob blwyddyn. Gallwch ein hysbysu o’r cwynion canlynol ynghylch sŵn:
- Cymdogion swnllyd (cerddoriaeth, gweiddi, larymau, DIY ar oriau afresymol).
- Sŵn o safleoedd masnachol (tafarndai, mannau cyfarfod, systemau awyru, larymau)
- Sŵn o safleoedd diwydiannol (ffatrïoedd, adeiladu, dymchwel, larymau)
- Larymau ceir neu setiau stereo uchel (dim ond pan mae’r cerbyd wedi ei barcio)
- Cŵn yn cyfarth yn ddi-baid
Nid ydym yn gallu dod i’r adwy ar gyfer sŵn traffig ar y ffordd na throseddau trefn gyhoeddus.
Gwneud cwyn
Os nad ydych yn gallu datrys y broblem eich hun, dywedwch wrthym amdani ac fe ymchwiliwn i mewn iddi. I ymchwilio i gwynion yn ymwneud â sŵn, bydd angen i chi ddarparu manylion yn eich cylch chi’ch hun a’r eiddo’n achosi’r sŵn honedig.
Fe allech hefyd ddod o hyd i gyngor yn ymwneud â llygredd sŵn ar y taflenni ymgynghorol a ddarperir ar y dudalen hon.
Os hoffech wneud cwyn i ni ynghylch sŵn ffoniwch, os gwelwch yn dda, C2BG ar (01495) 311556
Cofiwch, os gwelwch yn dda, na allwn dderbyn cwynion anhysbys ynghylch sŵn.
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gyswllt
Os hoffech wneud cwyn i ni ynghylch sŵn ffoniwch, os gwelwch yn dda, C2BG ar (01495) 311556.
Cofiwch, os gwelwch yn dda, na allwn dderbyn cwynion anhysbys ynghylch sŵn. Rhowch wybod amdano yn fy Gwasanaethau
E-bost : environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk