Larymau Lladron – Cynllun Hysbysu Deiliaid Allweddi

Mae larymau lladron, a adwaenir hefyd fel Larymau Tresbaswyr Clywadwy, yn gyfrwng cyffredin o wella diogelwch eich eiddo, ond gallant hefyd fod yn ffynhonnell anfodlonrwydd i’ch cymdogion pan ganant yn ddiangen neu pan ysgogir hwy yn ddamweiniol a does neb ar gael i ailosod neu ddatgysylltu’r larwm.

Mae’r Cod Ymarfer ar Sŵn o Larymau Tresbaswyr Clywadwy yn argymell y dylai larymau tresbaswyr clywadwy gael eu ffitio â phwynt diffodd awtomatig ymhen 20-munud. Argymhellir hefyd y dylech enwebu dau berson i gadw set o allweddi’ch tŷ a’u cynghori ynghylch Cod y larwm fel y gallant hwy ailosod eich larwm os nad ydych ar gael i wneud hynny. Mae’r Cyngor yn cynnig gwasanaeth cofrestru deiliaid allweddi - am fwy o wybodaeth gweler isod. 

Beth ydwyf i’w wneud os bydd larwm yn canu?

  • Os ydych yn drwgdybio bod rhywun wedi torri mewn i’r eiddo cysylltwch â’r heddlu ar unwaith;
  • Siaradwch â chymdogion i weld a oes unrhyw ddalwyr allweddi a phryd mae’r perchnogion yn debygol o ddychwelyd;
  • Os yw’r larwm yn parhau ar ôl 20-munud yna cysylltwch â thîm Iechyd yr Amgylchedd ar (01495) 311556.

Pa gamau bydd y Cyngor yn eu cymryd os nad wyf ar gael i ailosod fy larwm?

Bydd swyddog yn y lle cyntaf yn galw yn eich eiddo ac yn ceisio cysylltu â chi i benderfynu a oes rhywun ar gael i dawelu’r larwm. Os nad ydym yn gallu cysylltu â chi,, neu, wedi cysylltu â chi, rydym yn fodlon nad ydych yn gallu tawelu’r larwm o fewn cyfnod rhesymol o amser a bod y sŵn yn cael ei gyfrif yn ‘Niwsans Statudol’, yna fe roddir rhybudd i chi fel perchennog neu feddiannydd yr eiddo yn rhoi 30-munud i chi dawelu’r larwm.

Os, wedi’r 30-munud y mae’r larwm yn dal i ganu yna bydd swyddog yn trefnu bod camau’n cael eu cymryd i dawelu’r system larwm, a allai gynnwys cael gwarant o Lys Ynadon am bŵer i dorri mewn i’ch eiddo drwy rym a thawelu’r larwm.

Gall y Cyngor geisio adennill costau’r gwaith ynghlwm wrth dawelu’r larwm oddi wrthych chi.

Beth yw’r Cynllun Cofrestru Deiliaid Allweddi?

Ym Mlaenau Gwent rydym nawr yn cynnig gwasanaeth cofrestru deiliaid allweddi Mae cofrestru’n rhad ac am ddim ac yn syml ac mae’n eich galluogi i enwebu dau unigolyn sy’n ddeiliaid allweddi i’ch eiddo y gellir cysylltu â hwy petai’ch larwm tresbaswyr yn canu.

Bydd hyn yn ein cynorthwyo ni i dawelu’r larwm heb olygu unrhyw gostau i chi y bydd yn rhaid i chi wedyn eu had-dalu.

Mae’n rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod wedi gofyn am ganiatâd yr unigolion enwebedig sydd wedi llofnodi’r adrannau perthnasol o’r ffurflen gofrestru yn cadarnhau eu bod yn rhoi caniatâd i ni gysylltu â hwy.

Caiff yr holl fanylion eu storio’n ddiogel a’u defnyddio’n unig petai problem gyda’ch system larwm.

Cwblhewch, os gwelwch yn dda, ffurflen gofrestru deiliad allweddi

Awgrymiadau buddiol i atal eich system larwm rhag achosi niwsans i drigolion eraill:

  • Dylai’ch system fod wedi ei dylunio, ei gosod a’i chynnal a’i chadw i atal camrybudd. Mae Safonau Prydeinig BS 4737 yn amlinellu’r manylion a’r weithdrefn ar gyfer gosod a chynnal a chadw systemau larwm. Gwnewch yn siŵr bod y cwmni sy’n gyfrifol am eich larwm yn gweithredu i’r safonau hyn.
  • Cofiwch gynnal a chadw’ch system larwm yn rheolaidd. Gallai’ch cwmni yswiriant fynnu hyn hefyd.
  • Dylai’ch system gael dyfais sy'n torri-i-ffwrdd yn awtomatig i atal y larwm i ganu wedi, dyweder, tua 20-munud. Mae’r rhan fwyaf o larymau modern â’r ddyfais hon, ynghyd â golau sy’n fflachio sy'n dal i fynd ar ôl i’r canu gael ei dorri i ffwrdd. Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cwmni yswiriant fod gennych ddyfais torri-i-ffwrdd awtomatig.

Os nad oes gennych ddyfais torri-i-ffwrdd wedi ei gosod disgwylir i chi fod wedi enwebu deiliaid allweddi a all dawelu’r larwm o fewn 20-munud o gael eu hysbysu.  

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Os hoffech wneud cwyn i ni ynghylch sŵn ffoniwch, os gwelwch yn dda, C2BG ar (01495) 311556.
Cofiwch, os gwelwch yn dda, na allwn dderbyn cwynion anhysbys ynghylch sŵn. Rhowch wybod amdano yn fy Gwasanaethau

E-bost : environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk