Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i ailgylchu gwastraff gardd o'ch cartref.
Gwirio eich diwrnod casglu Gwastraff Gwyrdd
Casglir gwastraff gwyrdd bob pythefnos rhwng 30 Mawrth 2026 a 6 Tachwedd 2026.
Defnyddiwch ein teclyn dod o hyd i ddiwrnodau casglu i wirio pryd y byddwn yn casglu eich gwastraff gwyrdd.
Sachau gwastraff gwyrdd
Rhaid i chi ddefnyddio sachau gwastraff gwyrdd y Cyngor ar gyfer y gwasanaeth hwn.
Ni fyddwn yn casglu gwastraff gwyrdd sydd wedi'i adael mewn:
- Bagiau du
- Biniau
- Bagiau tunnell
- Unrhyw gynwysyddion eraill
Archebu sachau gwastraff gwyrdd
Mae cost sachau gwastraff gwyrdd newydd neu rai i'w disodli yn £2.20 yr un.
Ffurflen – Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Cwestiynau Cyffredin
Darllenwch ein canllawiau ynglŷn â phrynu a defnyddio sachau gwastraff gwyrdd.
final-faqs-green-sacks-2026.docx
Casgliadau yn ystod y gaeaf
Daw casgliadau gwastraff gwyrdd i ben ar 6 Tachwedd 2026.
Nid ydym yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd yn ystod y gaeaf.
Cyhoeddir dyddiadau casglu ar gyfer y tymor nesaf yn gynnar yn 2027.
Ffyrdd eraill o ailgylchu gwastraff gardd
Gallwch fynd â gwastraff gardd i ganolfan ailgylchu trwy gydol y flwyddyn.
Mae canolfannau ailgylchu wedi'u lleoli yn:
- New Vale, Glynebwy
- Roseheyworth, Abertyleri