Mae gan Flaenau Gwent oddeutu 600 o fusnesau bwyd. Cyfrifoldeb Tîm Masnachol y Cyngor yw gwirio bod yr holl safleoedd bwyd yn deall ac yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth diogelwch bwyd.
Mae swyddogion yn y Tîm Masnachol yn cyflawni’r gweithgareddau canlynol er mwyn cefnogi’r uchod:
- Cyflawni archwiliadau diogelwch bwyd rheolaidd mewn busnesau bwyd lleol ac arlwywyr gwadd, cefnogi busnesau i gydymffurfio â deddfwriaeth gyfredol diogelwch bwyd
- Cynnig cyngor ymarferol i weithredwyr busnesau bwyd i’w galluogi i weithredu’n ddiogel
- Ymchwilio i bob cwyn yn gysylltiedig â bwyd parthed bwyd anniogel, safleoedd ac arferion bwyd a chymryd y camau priodol yn ôl yr angen
- Cyflawni samplu bwyd a dŵr yn rheolaidd
- Cyflawni gwiriadau ar fwyd a fewnforiwyd
- Ymateb i rybuddion bwyd
- Archwilio gwneuthurwyr bwyd yn rheolaidd
- Cofrestru busnesau bwyd sy’n gweithredu o fewn Blaenau Gwent a monitro’r fwrdeistref am fusnesau newydd
Mae Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd (SIyrAion) yn y Tîm Masnachol yn gweithredu’r cynllun graddio o fewn Blaenau Gwent mewn partneriaeth gyda’r Asiantaeth Safonau Bwyd. Cynhwysir yn y cynllun unrhyw fusnes lle gall defnyddwyr fwyta neu brynu bwyd, megis bwytai, siopau tecawê, tafarndai, gwestai, archfarchnadoedd a safleoedd manwerthu eraill sy’n gwerthu bwyd.
Rhoddir i’r holl fusnesau a gynhwysir yn y cynllun raddfa hylendid yn dilyn archwiliad hylendid bwyd arferol. Rhoddir graddfa yn seiliedig ar berfformiad y busnes yn erbyn y meysydd allweddol canlynol sy’n amlwg adeg yr archwiliad:
- Pa mor lanwaith y trafodir y bwyd
- Cyflwr strwythur y safle
- Sut y rheolir ac y dogfennir diogelwch bwyd, gan gynnwys hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o hylendid bwyd?
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach yn ymwneud â’r cynllun graddio hylendid bwyd, gan gynnwys cyngor i fusnesau parthed cofrestru fel busnes bwyd, cael gwybodaeth ar hyfforddiant hylendid bwyd a rheoli clefydau heintus ar y dolenni i’r ddalen hon.
Gellir dod o hyd i restr lawn o’r graddfeydd hylendid bwyd ar gael i safleoedd gyda Blaenau Gwent yma: http://www.food.gov.uk/
Yn ychwanegol at yr uchod mae’r Cyngor yn cynhyrchu cynllun gwasanaeth blynyddol sy’n darparu manylion pellach ar y gwaith a gyflawnir gan y Tîm Masnachol parthed hylendid bwyd. Mae copi o’r cynllun diweddaraf ar gael isod:
Os ydych yn dymuno rhoi gwybod i ni am unrhyw faterion neu wneud cwyn ynghylch safle bwyd o fewn Blaenau Gwent yna, os gwelwch yn dda, cysylltwch â ni ar 01495 369542, e-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk neu fel arall hysbyswch eich materion ar-lein
Gwybodaeth Gyswllt
Tîm Masnachol
Rhif Ffôn: 01495 369542
Cyfeiriad: Amddiffyn y Cyhoedd –
Iechyd yr Amgylchedd, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk