Hylendid Allforion Bwyd – Tystysgrifau Cadarnhad Iechyd

Cais am Gadarnhad Iechyd

Cyhoeddir Cadarnhad Iechyd ar gais i fusnesau bwyd sy’n dymuno allforio bwydydd tu allan i’r Deyrnas Unedig. Cânt eu darparu i gynorthwyo allforwyr lleol i ateb gofynion diogelwch bwyd.

Mae gwybodaeth bellach ar ba ddogfennau allforio sydd eu hangen ar gael gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Canfod tystysgrif iechyd allforio - GOV.UK (www.gov.uk)

Sut i wneud cais

Rhaid i bob rhan o’r ffurflen gais hon gael eu llenwi er mwyn i gais fod yn ddilys.

Dychwelwch y ffurflenni i’r cyfeiriad isod neu drwy e-bost at environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk .  Bydd aelod o’n tîm yn cysylltu i gadarnhau derbyn y cais a gofyn am daliad cyn prosesu’r gais.

Dylid nodi fod isafswm ffi o £108.16 yn daladwy am bob tystysgrif ac y gall y ffi yma amrywio yn dibynnu ar nifer yr oriau yr amcangyfrifir sydd eu hangen i gwblhau eich cais. Cysylltwch â ni i gael dyfynbris cyn gwneud cais i gadarnhau’r union swm fydd yn daladwy. Mae angen taliad adeg gwneud cais ac ni chaiff eich cais ei brosesu nes y cafodd y ffi gywir ei thalu yn llawn.

Gwybodaeth ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr

Byddwn bob amser yn ceisio cynnwys y geiriad a nodwyd ar eich ffurflen ond ni allwn gynnwys geiriad sy’n awgrymu ein bod yn cadarnhau diogelwch y sypyn/llwyth unigol o fwyd. Fel arfer mae ein geiriad yn adlewyrchu’r ffaith y caiff eich bwydydd eu cynhyrchu/cadw mewn safleoedd a ddaw o fewn ein hardal rheoleiddio fel awdurdod bwyd ac a gafodd raglen archwilio foddhaol.

Rydym yn cadw’r hawl i gyhoeddi tystysgrif os ydym yn anfodlon gyda’r safonau ac arferion hylendid yn eich safle.

Bydd y broses gais ac ymgynghori fel arfer yn cymryd hyd at 10 diwrnod gwaith. Byddwch yn derbyn eich tystysgrif yn electronig os nad ydych wedi gofyn yn benodol am gopi caled.

Gwybodaeth Gyswllt

Tîm Masnachol
Rhif Ffôn: 01495 357813
Cyfeiriad: Amddiffyn y Cyhoedd –
Iechyd yr Amgylchedd, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk