Ynglŷn â Gwasanaethau Cymdeithasol

Hysbysiad Cyhoeddus Pwysig

I sicrhau ein bod yn cydymffurfio gyda'r newidiadau a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014, mae Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent wrthi'n gwneud newidiadau i'r wybodaeth a'r cyngor y mae'n eu darparu drwy daflenni gwybodaeth a thudalennau gwefan. Os na allwch ddod o hyd i wybodaeth, cyngor neu arweiniad am wasanaeth cysylltwch â r hyb Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Gwasanaethau Cymdeithasol  (IAA) perthnasol:

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent yn cefnogi'r bobl hynny sydd angen gofal a chymorth, yn cynnwys y plant ac oedolion hynny mewn risg ac sydd angen eu hamddiffyn a'r rhai sydd angen iddynt ddatblygu eu galluoedd i fyw mor annibynnol ac mor fodlon ag sydd modd.

Pwy mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei gefnogi?

Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent yn cefnogi:

  • Plant a phobl ifanc dan 18 oed a'u teuloedd
  • Pobl ifanc hyd at 24 oed y mae'r Cyngor wedi gofalu amdanynt
  • Oedolion a phobl iau gydag anableddau corfforol, anableddau dysgu, problemau iechyd meddwl neu broblemau'n gysylltiedig â chyffuriau neu alcohol
  • Gofalwyr sy'n deulu a ffrindiau sy'n gofalu am eraill.

Pa gymorth a gaiff ei ddarparu?

Mae gan Gwasanaethau Cymdeithasol gyfrifoldeb cyfreithiol am ddarparu dewis eang o wasanaethau i hyrwyddo lles plant a'u cadw'n ddiogel.

Mae Gwasanaethau Oedolion yn darparu dewis eang iawn o help ar gyfer grwpiau eang o bobl gyda llawer o anghenion cymorth a gofal. Mae taflenni gwybodaeth ar gael; cliciwch yma i weld yr holl ddewis.

Gyda phwy ddylech chi gysylltu i gael help gan Gwasanaethau Cymdeithasol?

Mae gan y Cyngor hybiau penodol  Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth Gwasanaethau Cymdeithasol  (IAA) sy'n rhoi pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl sy'n dymuno gofyn am wybodaeth, cyngor neu gymorth neu, gyda'u caniatâd, ar gyfer perthynas neu ffrind. Gellir cysylltu  gyda'r hybiau yn bersonol dros y ffôn, llythyr, ffacs neu e-bost. Y dulliau hyn hefyd yw'r pwynt cyswllt cyntaf gyda Gwasanaethau Cymdeithasol gan asiantaethau eraill megis Iechyd, Addysg, yr Heddlu a Thai.

Pa wybodaeth mae Gwasanaethau Cymdeithasol ei angen?

Pan gysylltwch gyda'r hybiau IAA gofynnir rhai cwestiynau i chi am yr amgylchiadau a wnaeth arwain at y cyswllt ac i ganfod os gall Gwasanaethau Cymdeithasol helpu

Bydd angen peth gwybodaeth sylfaenol yn cynnwys eich enw, cyfeiriad a manylion cyswllt ac os gwneir yr atgyfeiriad ar ran rhywun arall bydd hefyd angen manylion y person hynny.  Gellir derbyn atgyfeiriadau di-enw fodd bynnag  gellir bod angenangen gwybodaeth ychwanegol i brosesu'r atgyfeiriad.

Mae'n rhaid cael caniatâd y person a atgyfeirir cyn gwneud atgyfeiriad os nad oes pryderon am ddiogelu. Yn anaml mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn derbyn atgyfeiriadau heb ganiatâd o'r fath ac os na roddwyd caniatâd, mae'n rhaid rhoi esboniad.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd yr hybiau IAA un ai'n rhoi gwybodaeth i chi neu efallai eich ailgyfeirio at asiantaeth neu sefydliad arall

Bydd  asesiad cymesur yn penderfynu pa ganlyniadau y dymunwch eu cyflawni ac os ydych yn gymwys am wasanaethau.

Dim ond i bobl agored i niwed gydag anghenion gofal cymdeithasolo neilltuol a'u gofalwyr sy'n gymwys am y cymorth hwnnw y mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu gofal a chymorth.

Os ydych yn gymwys am ofal a chymorth caiff eich gwybodaeth ei throsglwyddo i staff arbenigol o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol.

Beth allaf ei wneud os aiff pethau o chwith?

Mae gennych hawl i gwyno os ydych yn anhapus am unrhyw un o'n gwasanaethau neu am y ffordd y cawsoch eich trin. Os dymunwch, gallwch gael rhywun gyda chi i siarad ar eich rhan neu i'ch cefnogi.

Mae manylion pellach am sut i ddefnyddio'r drefn gwynion ar gael yn nhaflen cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol neu drwy gysylltu â'r Swyddog Cwynion yn swyddfa'r Pencadlys.

Gwybodaeth Gyswllt

I gael gwybodaeth, cyngor a chymorth, neu i wneud atgyfeiriad atgyfeiriad neu adroddiad am bryderon yn gysylltiedig â:

  • person 18 oed neu drosodd, cysyllwch â Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion
  • plentyn neu berson ifanc, cysylltwch â hyb IAA Gwasanaethau Plant

IAA Gwasanaethau Oedolion

Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

IAA Gwasanaethau Plant

Ffôn: 01495 315700
E-bost: duty.team@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350

Ar gyfer gwybodaeth ac ymholiadau:
E-bost: info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri
NP13 1DB

Ffôn: (01495) 354680
Ffacs: (01495) 355285