Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae gan y Cyngor ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel i'w ddefnyddwyr, felly rydym yn croesawu eich adborth a/neu gwynion gan eu bod yn ein helpu i wella ein gwasanaethau. 

Sut i Gwyno

Os ydych yn teimlo'n anfodlon gyda gwasanaeth a gawsoch gan y Cyngor, gallwch gael mwy o wybodaeth ar 'Beth yw Cwyn' a 'Phwy all Gwyno' drwy ddarllen y daflen amgaedig ar Canmoliaeth, Sylwadau a Chwynion Gwasanaethau Cymdeithasol neu ddarllen canllawiau Llywodraeth Cymru. Medrir canfod hyn yn yr adran dolenni gwybodaeth bellach. 

Cysylltwch â'r swyddog cwynion os gwelwch yn dda os ydych yn dal i deimlo'n ansicr ar ôl darllen yr wybodaeth yma neu os hoffech drafod eich pryderon.

 Os penderfynwch y byddech yn hoffi cwyno am un o'n gwasanaethau, byddwn yn ceisio datrys eich pryderon yn gyflym ac effeithiol drwy'r camau dilynol. 

Cam 1: Datrysiad Lleol. Cewch gynnig cyfle i drafod eich pryderon un ai'n wyneb i wyneb neu dros y ffôn gydag uwch swyddog o fewn ein hadran. Os ydych yn dal yn anfodlon gyda chanlyniad Cam 1 y gŵyn neu os yw natur ddifrifol y gŵyn yn golygu ei bod yn amhriodol delio gyda hi yng Ngham 2, yna caiff eich cwyn ei hymchwilio dan Cam 2. 

Cam 2: Ymchwiliad Ffurfiol. Caiff y gŵyn ei hymchwilio gan ymchwilydd annibynnol. Os na chafodd eich pryderon eu datrys gan y Cyngor o fewn y broses dau gam, cewch gyfle i godi eich cŵyn gyda ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. 

Mae mwy o wybodaeth am y camau a'r Ombwdsman ar gael islaw. 

Cydnabod Cwyn

Bydd y Swyddog Cwynion yn cydnabod derbyn eich cwyn o fewn 2 ddiwrnod gwaith o'i derbyn. 

Cwyn Cam 1: Datrysiad Lleol

Unwaith y cafodd eich cwyn ei chydnabod, mae gan y Cyngor 10 diwrnod gwaith i gysylltu â chi a datrys eich cwyn. Byddwn wedyn yn rhoi ymateb ysgrifenedig i chi o fewn 5 diwrnod gwaith pellach o ddyddiad y datrysiad. 

Cwyn Cam 2: Ymchwiliad Ffurfiol

Bydd y Swyddog Cwynion yn rhoi cyngor a chefnogaeth i benderfynu os/pryd y dylai'r gŵyn symud i gam ymchwiliad ffurfiol. 

Unwaith y byddwch chi a'r ymchwilydd wedi cytuno ar gynnwys eich cwyn, daw hyn yn 'ddyddiad dechrau' yr ymchwiliad. Caiff yr ymchwiliad ei orffen a chewch ymateb ysgrifenedig o fewn 25 diwrnod o'r 'dyddiad dechrau'. Os, oherwydd amgylchiadau eithriadol, nad yw ymateb yn bosibl o fewn yr amserlen hon byddwn yn ysgrifennu atoch i ddweud wrthych pam fod oedi a phryd y rhoddir yr ymateb. 

Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Mae Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn annibynnol o bob corff llywodraeth a gall edrych i gwynion lle mae'r achwynydd yn parhau'n anfodlon. 

Coflyfr ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol 2022-2023

Llais – Eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Mae Llais yn gorff statudol annibynnol, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llawer mwy o lais i bobl Cymru wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol - yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Maen nhw'n credu mewn Cymru iachach lle mae pobl yn cael y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd eu hangen arnynt mewn ffordd sy'n gweithio orau iddyn nhw.

Os oes gennych bryder ynghylch gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gallwch ymweld yma i gael rhagor o wybodaeth: Codi pryder am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol | LLais (llaiscymru.org)

Cliciwch yma i weld Cylchlythyr Llais 2023.

Sut i riportio canmoliaeth?

Gellir rhoi gwybod am ganmoliaeth am wasanaeth neu aelod o staff.

Os ydych chi am roi gwybod am ganmoliaeth, cwblhewch y Ffurflen Ganmoliaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ar-lein.

Fel arall, gallwch gysylltu â'r Cyngor yn y ffyrdd a ganlyn:

Gallwch wneud canmoliaeth trwy info@blaenau-gwent.gov.uk

Gwybodaeth Gyswllt

Andrea James, Swyddog Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol

Ffôn: 01495 357715

Adran Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Llys Einion
Stryd yr Eglwys
Abertyleri

social.services.complaints@blaenau-gwent.gov.uk