Cwrt Mytton

Cwrt Mytton

Cyfleusterau

  • Mae Cwrt Mytton yn gartref Gofal Preswyl Dementia Gwasanaethau Cymunedol ar gyfer pobl dros 55 oed sydd wedi cael diagnosis o ddementia.
  • Dyluniwyd yr adeilad i wneud bywyd yn ddymunol ac yn gyfleus i breswylwyr a'u hymwelwyr ac i ddarparu ar gyfer anghenion newidiol ein trigolion.
  • Mae'r cartref wedi'i leoli oddi ar Alma Street, yn agos at ganol tref Abertyleri.
  • Mae yna 26 o ystafelloedd parhaol. Mae'r rhain yn cynnwys ystafelloedd sengl gyda chyfleusterau en-suite neu unedau ymolchi, a chyfleusterau toiled cyfagos.
  • Mae gan bob casgliad o ystafelloedd ei ystafell ymolchi ac ystafell gawod ei hun, sydd wedi'u haddasu i ddiwallu ystod o anghenion corfforol, gan ddarparu diogelwch, preifatrwydd a chysur.
  • Mae'r lolfeydd cymunedol, yr ystafell fwyta a'r gegin wedi'u lleoli yn ardal ganolog y Cartref, gyda lolfeydd llai ar gael i breswylwyr sydd eisiau gofod llai, tawelach.
  • Mae gennym ystafell weithgareddau, gyda bar, bwrdd pŵl, ping pong, dartiau, cyflenwadau crefft a gemau i breswylwyr ac ymwelwyr eu mwynhau
  • Mae gan breswylwyr fynediad at iardiau mewnol ac fe'u hanogir i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored gan gynnwys garddio a gemau.
  • Mae system alw/larwm ym mhob ystafell.
  • Mae lolfa ymwelwyr ar gael gyda chyfleusterau gwneud te/coffi a mynediad i iard fewnol.

Staff

  • Mae yna dîm profiadol iawn o swyddogion gan gynnwys Rheolwr Cartref Cofrestredig, Rheolwyr Tîm Cynorthwyol, Arweinwyr Tîm, Gweithwyr Gofal, Cynorthwywyr Domestig, Cynorthwywyr Golchi Dillad a Chogyddion.
  • Mae staff yn cael hyfforddiant ar gyfer tasgau maen nhw'n eu cyflawni ac yn cael cyfleoedd hyfforddi pellach i ddatblygu eu sgiliau.

Gwasanaethau

  • Gofal hirdymor: 26 o leoedd ar gael.
  • Gofal byrdymor: 2 o leoedd ar gael.
  • Mae staff yn cynnig help gyda'r holl ofal personol, ymdrochi, golchi, eillio a gwisgo.
  • Darperir gwasanaeth golchi dillad a bydd staff hefyd yn gwnïo a thrwsio.

Gofal Meddygol

  • Gallwch barhau i ddefnyddio gwasanaethau eich meddyg (Meddyg Teulu) os gallant ddarparu gwasanaeth i chi yn ardal Abertyleri.
  • Mae gan Gwrt Mytton berthynas waith gref gyda'n meddygfeydd teulu lleol.
  • Gall nyrsys sy'n gweithio yn y gymuned ac ymgynghorwyr arbenigol ymweld â'r cartref, os oes angen.

Prydau Bwyd a Gwasanaethau Eraill

  • Mae gennym dîm cegin ymroddedig o gogyddion, a chynorthwywyr cegin, sy'n gwneud prydau cartref maethlon bob dydd.
  • Rydym yn cynnig dewisiadau ar fwydlen mewn lleoliad tebyg i gaffi yn yr ystafell fwyta. Os byddai’n well gan breswylwyr gael ychydig o dawelwch, rydym hefyd yn cynnig bwyd yn y lolfeydd llai.
  • Darperir ar gyfer dietau arbennig a dewisiadau personol.
  • Mae gwasanaethau eraill yn cynnwys ymweliad ddwywaith yr wythnos gan weithiwr trin gwallt sydd â ffioedd rhesymol iawn.
  • Gall staff gefnogi gydag ymweliadau ag ysbytai, ciropodyddion, deintyddion ac ati, os oes angen.
  • Mae'r cartref yn cael ei redeg yn ddemocrataidd fel bod pawb yn cyfrannu ac yn rhannu unrhyw benderfyniadau.

Taliadau

Maent wedi'u gosod yn ôl fformiwla y cytunwyd arno yn genedlaethol.

Cysylltiadau Cymunedol

Mae gan Gwrt Mytton gysylltiadau cymunedol cryf ag ysgolion a cholegau lleol, a grwpiau crefyddol lleol.  

Ein nod yw teilwra mynediad cymunedol i bob preswylydd, ei anghenion, ei ddewisiadau a'i alluoedd unigol a chefnogi preswylwyr i gael mynediad at gymunedau drwy ymweld â siopau, parciau a mannau gwyrdd a chymryd rhan mewn digwyddiadau cymunedol.   

Nod

Ein nod yw darparu gofal preswyl 24 awr o ansawdd uchel i bobl dros 55 oed sydd â dementia tra'n cefnogi a chynnal eu hannibyniaeth a'u dewisiadau.

Gweithgareddau

Mae'r holl weithgareddau yn y Cartref yn cael eu dewis ar y cyd gan breswylwyr a staff.

Fe'u trefnir ar gyfer grwpiau neu ar gyfer unigolion ac maent yn cynnwys:

  • Cyngherddau.
  • Corau.
  • Dominos, cardiau a gemau bwrdd.
  • Dartiau, bingo, posau a chrefftau.
  • Barbeciws.
  • Partïon haf, Nadolig a phen-blwydd.
  • Nosweithiau fideo.
  • Cysylltiadau ag ysgolion a cholegau lleol
  • Mynediad cymunedol i drefi lleol, mannau hardd lleol, parciau, canolfannau siopa, sioeau, cyngherddau, bwytai a thafarndai.

Ffynonellau Cymorth

Os hoffech ymweld â Chwrt Mytton i gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

Cwrt Mytton
Alma Street
Abertyleri
NP13 1QA

Ffôn: (01495) 217736

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Cwrt Mytton
Alma Street
Abertyleri
NP13 1QA

Ffôn: (01495) 217736

Am wybodaeth, cyngor neu gymorth, i wneud atgyfeiriad neu adrodd pryderon mewn perthynas â:

  • pherson 18 oed neu'n hŷn, cysylltwch â'r Hyb IAA Gwasanaethau Oedolion

Ffôn: 01495 315700
E-bost: :  DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk

Am ymholiadau cyffredinol:
E-bost: :  info@blaenau-gwent.gov.uk

Pencadlys:

Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN