Gallwch ailgylchu eich gwastraff gwyrdd bob bythefnos rhwng dydd Llun 3 Ebrill 2023 a dydd Gwener 10 Tachwedd 2023.
Ni fydd angen i chi gofrestru er mwyn defnyddio’r gwasanaeth casglu am ddim yma.
Gofynnir i chi roi eich sachau gwyrdd allan yn eich man casglu cyn 7am ar eich diwrnod casglu os gwelwch yn dda.
Dim ond sachau gwyrdd a roddir gan y cyngor ddylid eu defnyddio i roi gwastraff gwyrdd. Yn anffodus, ni fedrwn wagio “bagiau tunnell” wedi eu llenwi gyda gwastraff gwyrdd.
NODWCH OS GWELWCH YN DDA: Nid ydym yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd yn y gaeaf erbyn hyn gyda CHASGLIADAU BOB BYTHEFNOS YN DOD I BEN DDYDD GWENER 10 TACHWEDD 2023.
Caiff dyddiadau casglu y flwyddyn nesaf eu cadarnhau yn gynnar yn 2024.
Yn ystod y cyfrnod pan nad yw’r Cyngor yn darparu casgliadau gwastraff gwyrdd, gallwch fynd â’r gwastraff hwn i’ch Canolfan Gwastraff Cartrefi ac Ailgylchu (HWRC) agosaf, sydd yn New Vale, Glynebwy a Roseheyworth, Abertyleri. I gael mwy o wybodaeth am HWRC yr Awdurdod, defnyddiwch y ddolen isod:
Casgliadau
Casgliadau Wythnos 1
Bydd casgliadau bob bythefnos yn dechrau yn yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 3 Ebrill 2023 ar gyfer yr ardaloedd isod:
DYDDIAU LLUN Mai: 29
|
• Pochin, Tredegar • Pyllau Bedwellte, Tredegar • Cefn Golau, Tredegar • Tredegar Gorllewin a Chanolog, Tredegar • Ashvale, Tredegar • Tafarnaubach, Tredegar • Blue Lake Close, Glynebwy • Carn y Cefn, Glynebwy |
DYDDIAU MAWRTH Mai: 30 |
• Troedrhiwgwair, Tredegar • Georgetown, Tredegar • St James Way, Tredegar • Sirhywi, Tredegar • Dukestown, Tredegar • Waundeg & Tŷ Newydd, Tredegar • Trefil, Tredegar • Beaufort Wells, Glynebwy |
DYDDIAU MERCHER Mai: 31 Tachwedd: 1 |
• Rasa, Glynebwy • Garnlydan, Glynebwy • Tref Carmel, Glynebwy • Beaufort (Rhan), Glynebwy • Bryn Coch, Glynebwy • Glyncoed (Rhan), Glynebwy |
DYDDIAU IAU Mehefin: 1/15/29 Tachwedd: 2 |
• Glyncoed (Rhan), Glynebwy • Pontygof, Glynebwy • Trehelyg, Glynebwy • Hilltop, Glynebwy • Rhiw Briery, Glynebwy |
DYDDIAU GWENER Mehefin: 2/16/30 Tachwedd: 3 |
• Rhiw Beaufort, Glynebwy • Heol Hawthorn, Glynebwy • Bryn Kendall, Glynebwy • Brynawelon, Glynebwy • Tŷ’r Meddyg, Glynebwy • New Church Road, Glynebwy • Drenewydd, Glynebwy • The Crescent, Glynebwy • Clos Pen y Cae, Glynebwy • Tyllwyn, Glynebwy • Garden City, Glynebwy • Parc yr Ŵyl, Glynebwy • Waunlwyd, Glynebwy |
Casgliadau Wythnos 2
Bydd casgliadau bob bythefnos yn dechrau yn yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 10 Ebrill 2023 ar gyfer yr ardaloedd isod:
DYDDIAU LLUN Mehefin: 5/19 Tachwedd: 6 |
• Brynmawr • Lakeside, Nantyglo |
DYDDIAU MAWRTH Mehefin: 6/20 Tachwedd: 7 |
• Nantyglo • Coed Cae, Nantyglo • Cwmcelyn, Blaenau • Dwyrain Pentwyn/Southland, Blaenau • Tanglewood, Blaenau |
DYDDIAU MERCHER Mehefin: 7/21 Tachwedd: 8 |
• Winchestown, Nantyglo • Coalbrookvale, Nantyglo • Westside, Blaenau • Blaenau • Bournville, Blaenau |
DYDDIAU IAU Mehefin: 8/22 Tachwedd: 9 |
• Roseheyworth, Abertyleri • Cwmtyleri, Abertyleri • Abertyleri • Six Bells, Abertyleri • Cwm, Glynebwy |
DYDDIAU GWENER Mehefin: 9/23 Tachwedd: 10 |
• Aber-bîg, Abertillery • Llanhiledd, Abertillery • Brynithel, Abertillery • Swffryd |
Cyn i chi ddechrau
Byddwch angen eich enw defnyddiwr a chyfrinair Fy Ngwasanaethau neu greu cyfrif o’r sgrin mewngofnodi.
Defnyddiwch borwr tebyg i Chrome, Edge neu Safari i gael mynediad i Fy Ngwasanaethau a’r ffurflen isod. Ni fydd yn gweithio yn Internet Explorer.
Os ydych angen help
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar casgliad gwastraff gwyrdd, anfonwch e-bost at info@blaenau-gwent.gov.uk neu ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01495 311556.