Gallwch ailgylchu eich gwastraff gwyrdd bob bythefnos o ddydd Llun 1 Ebrill 2024 i ddydd Gwener 21 Tachwedd 2024.
Dylid nodi nad oes angen i chi bellach gofrestru i ddefnyddio’r gwasanaeth casglu am ddim.
Gofynnir i chi roi eich sachau gwyrdd mas i gael eu casglu cyn 7am ar eich diwrnod casglu, yn eich man casglu ailgylchu.
Oherwydd cyfyngiadau sylweddol cyfredol ar y gyllideb, penderfynodd y Cyngor dreialu tâl o £2 am sachau gwastraff gwyrdd.
Os ydych angen sachau gwyrdd, fydd ar gael i’w harchebu o ddydd Llun 1 Ebrill, ewch i Fy Ngwasanaethau neu ffonio 01495 311556.
Cliciwch yma ar gyfer Cwestiynau Cyffredin ar brynu sachau gwastraff gwyrdd.
Dim ond sachau gwyrdd a ddarperir gan y cyngor y dylech eu defnyddio i gyflwyno eich gwastraff gwyrdd. Ni chaiff unrhyw wastraff gwyrdd a roddir mewn unrhyw ddaliedyddion eraill, yn cynnwys sachau hesian ailgylchu glas, eu casglu. Nid ydym chwaith yn medru gwagu “bagiau tunnell” wedi eu llenwi gyda gwastraff gwyrdd.
NODWCH OS GWELWCH YN DDA – Nid ydym bellach yn darparu gwasanaeth casglu gwyrdd yn ystod y gaeaf, gyda CHASGLIADAU BOB BYTHEFNOS YN DOD I BEN DDYDD GWENER 1 TACHWEDD 2024
Caiff dyddiadau casglu y flwyddyn nesaf eu cadarnhau yn gynnar yn 2025.
Yn ystod y cyfnod pan nad yw’r Cyngor yn darparu casgliadau gwastraff gwyrdd, gallwch fynd â’r gwastraff hwn i’r Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu Cartrefi (HWRC) yn New Vale, Glynebwy a Roseheyworth, Abertyleri. I gael mwy o wybodaeth am ganolfannau HWRC yr Awdurdod, defnyddiwch y ddolen isod os gwelwch yn dda:
Casgliadau
Casgliadau Wythnos 1
Bydd casgliadau bob bythefnos yn dechrau yn yr wythnos yn cychwyn ddydd Llun 1 Ebrill ar gyfer yr ardaloedd isod:
DYDDIAU LLUN Ebrill: 1 / 15 / 29 |
• Pochin, Tredegar • Pyllau Bedwellte, Tredegar • Cefn Golau, Tredegar • Tredegar Gorllewin a Chanolog, Tredegar • Ashvale, Tredegar • Tafarnaubach, Tredegar • Blue Lake Close, Glynebwy • Carn y Cefn, Glynebwy |
DYDDIAU MAWRTH Ebrill: 2 / 16 / 30 |
• Troedrhiwgwair, Tredegar • Georgetown, Tredegar • St James Way, Tredegar • Sirhywi, Tredegar • Dukestown, Tredegar • Waundeg & Tŷ Newydd, Tredegar • Trefil, Tredegar • Beaufort Wells, Glynebwy |
DYDDIAU MERCHER Ebrill: 3 / 17 |
• Rasa, Glynebwy • Garnlydan, Glynebwy • Tref Carmel, Glynebwy • Beaufort (Rhan), Glynebwy • Bryn Coch, Glynebwy • Glyncoed (Rhan), Glynebwy |
DYDDIAU IAU Ebrill: 4 / 18 |
• Glyncoed (Rhan), Glynebwy • Pontygof, Glynebwy • Trehelyg, Glynebwy • Hilltop, Glynebwy • Rhiw Briery, Glynebwy |
DYDDIAU GWENER Ebrill: 5 / 19 |
• Rhiw Beaufort, Glynebwy • Heol Hawthorn, Glynebwy • Bryn Kendall, Glynebwy • Brynawelon, Glynebwy • Tŷ’r Meddyg, Glynebwy • New Church Road, Glynebwy • Drenewydd, Glynebwy • The Crescent, Glynebwy • Clos Pen y Cae, Glynebwy • Tyllwyn, Glynebwy • Garden City, Glynebwy • Parc yr Ŵyl, Glynebwy • Waunlwyd, Glynebwy |
Casgliadau Wythnos 2
Bydd casgliadau bob bythefnos yn dechrau yn yr wythnos yn cychwyn dydd Llun 8 Ebrill 2024 ar gyfer yr ardaloedd isod:
DYDDIAU LLUN Ebrill: 8 / 22 |
• Brynmawr • Lakeside, Nantyglo |
DYDDIAU MAWRTH Ebrill: 9 / 23 |
• Nantyglo • Coed Cae, Nantyglo • Cwmcelyn, Blaenau • Dwyrain Pentwyn/Southland, Blaenau • Tanglewood, Blaenau |
DYDDIAU MERCHER Ebrill: 10 / 24 |
• Winchestown, Nantyglo • Coalbrookvale, Nantyglo • Westside, Blaenau • Blaenau • Bournville, Blaenau |
DYDDIAU IAU Ebrill: 11 / 25 |
• Roseheyworth, Abertyleri • Cwmtyleri, Abertyleri • Abertyleri • Six Bells, Abertyleri • Cwm, Glynebwy |
DYDDIAU GWENER Ebrill: 12 / 26 |
• Aber-bîg, Abertillery • Llanhiledd, Abertillery • Brynithel, Abertillery • Swffryd |
Cyn i chi ddechrau
Byddwch angen eich enw defnyddiwr a chyfrinair Fy Ngwasanaethau neu greu cyfrif drwy glicio greu cyfrif ar y sgrîn mewngofnodi.
Defnyddiwch borwr tebyg i Chrome, Edge neu Safariii gael mynediad i Fy Ngwasanaethau. Ni fydd yn gweithio yn Internet Explorer.
Os ydych angen help
Os oes gennych unrhyw sylwadau ar gasgliadau gwastraff gwyrdd, anfonwch e-bost at info@blaenau-gwent.gov.uk neu ffonio ein Canolfan Gyswllt ar 01495 311556.