Pass Plas Cymru

Cynllun Gwella Gyrwyr Ifanc Pass Plus Cymru 

Mae'r prosiect hwn a gyllidir gan Llywodraeth Cymru wedi'i anelu at yrwyr ifanc 17-25 oed sydd wedi pasio eu prawf yn ddiweddar.

Nod y cwrs yw eu helpu i wella eu sgiliau gyrru, cael profiad ychwanegol ac efallai gael disgownt ar eu hyswiriant car.

Fel rhan o'r prosiect mae'n rhaid i yrwyr ifanc fynychu sesiwn theori tair awr gyda Swyddog Diogelwch Ffordd Blaenau Gwent yn yr orsaf dân leol, a ddilynir gan sesiwn "ar-y-ffordd mewn-car" gyda Hyfforddodd Gyrru Cymeradwy sydd wedi cofrestru gyda Pass Plus. (Caiff y gyrru ei rannu rhwng dau yrrwr naill ai dros un ai ddiwrnod llawn neu ddau hanner diwrnod).

Bydd pob gyrrwr sy'n cymryd rhan yn cael cyfle i wella eu sgiliau gyrru ar y cynllun Pass Plus estynedig yma.

Am y cynllun

Mae'r cynllun yn cynnwys chwe modiwl a gynlluniwyd arbennig yn cynnwys:-

  • Gyrru mewn tref 
  • Gyrru tu allan i dref 
  • Gyrru ym mhob tywydd 
  • Gyrru yn y nos 
  • Gyrru ar ffyrdd deuol 
  • Gyrru ar draffordd

Rhoddir sylw hefyd i

  • gyrru amddiffynnol
  • ymwybyddiaeth o beryglon
  • canolbwyntio
  • gyrru ar ôl cymryd cyffuriau neu yfed alcohol
  • agweddau diogel
  • cyflymder
  • ymddygiad cyffredinol gyrwyr

"Pam y dylwn ystyried Pass Plus Cymru?" 

Yn ogystal â gwella risg cael damwain ffordd, bydd y cynllun yn eich galluogi i ennill profiad a sgiliau gwerthfawr.

Caiff pob ymgeisydd Dystysgrif Pass Plus ar ôl gorffen y cwrs.

Dim ond £20 i bawb sy'n cymryd rhan yw cost y cwrs, sydd ag achrediad yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA), disgownt sylweddol o'r gost arferol o rhwng £120 a £150 y person.

I ymuno â'r cwrs, mae'n rhaid i chi fod :- 

  • â thrwydded yrru lawn 
  • rhwng 17-25 oed 
  • yn byw yng Nghymru

Y cyrsiau nesaf ym Mlaenau Gwent yw:

Dydd Llun 12 Awst 2019
Dydd Llun 11 Tachwedd 2019
Dydd Llun 20 o Ionawr

Lleoliad y cwrs: Yng Ngorsaf Tan Abertyleri, Bryn yr Orsaf, Aertyleri, NP13 1UJ
Cyrsiau'n cychwyn: 6pm ac yn cymryd tua 2-3 awr
I archebu lle ewch i: http://dragondriver.com/ 
eu ffonio: 0845 050 4255 

(Dalier sylw: Mae galwadau i'r rhif hwn yn costio 2c y funud ynghyd â ffi defnydd eich cwmni ffôn.)

 

 

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Gyswllt

Traffic Safety Officers
Civic Centre, 
Ebbw Vale, 
NP23 6XB

Tel No: 01495 355378