Cynllun Gwella Gyrwyr Ifanc Pass Plus Cymru
Mae'r prosiect hwn a gyllidir gan Llywodraeth Cymru wedi'i anelu at yrwyr ifanc 17-25 oed sydd wedi pasio eu prawf yn ddiweddar.
Nod y cwrs yw eu helpu i wella eu sgiliau gyrru, cael profiad ychwanegol ac efallai gael disgownt ar eu hyswiriant car.
Fel rhan o'r prosiect mae'n rhaid i yrwyr ifanc fynychu sesiwn theori tair awr gyda Swyddog Diogelwch Ffordd Blaenau Gwent yn yr orsaf dân leol, a ddilynir gan sesiwn "ar-y-ffordd mewn-car" gyda Hyfforddodd Gyrru Cymeradwy sydd wedi cofrestru gyda Pass Plus. (Caiff y gyrru ei rannu rhwng dau yrrwr naill ai dros un ai ddiwrnod llawn neu ddau hanner diwrnod).
Bydd pob gyrrwr sy'n cymryd rhan yn cael cyfle i wella eu sgiliau gyrru ar y cynllun Pass Plus estynedig yma.
Am y cynllun
Mae'r cynllun yn cynnwys chwe modiwl a gynlluniwyd arbennig yn cynnwys:-
- Gyrru mewn tref
- Gyrru tu allan i dref
- Gyrru ym mhob tywydd
- Gyrru yn y nos
- Gyrru ar ffyrdd deuol
- Gyrru ar draffordd
Rhoddir sylw hefyd i
- gyrru amddiffynnol
- ymwybyddiaeth o beryglon
- canolbwyntio
- gyrru ar ôl cymryd cyffuriau neu yfed alcohol
- agweddau diogel
- cyflymder
- ymddygiad cyffredinol gyrwyr
"Pam y dylwn ystyried Pass Plus Cymru?"
Yn ogystal â gwella risg cael damwain ffordd, bydd y cynllun yn eich galluogi i ennill profiad a sgiliau gwerthfawr.
Caiff pob ymgeisydd Dystysgrif Pass Plus ar ôl gorffen y cwrs.
Dim ond £20 i bawb sy'n cymryd rhan yw cost y cwrs, sydd ag achrediad yr Asiantaeth Safonau Gyrru (DSA), disgownt sylweddol o'r gost arferol o rhwng £120 a £150 y person.
I ymuno â'r cwrs, mae'n rhaid i chi fod :-
- â thrwydded yrru lawn
- rhwng 17-25 oed
- yn byw yng Nghymru
Y cyrsiau nesaf ym Mlaenau Gwent yw:
Dydd Llun 12 Awst 2019
Dydd Llun 11 Tachwedd 2019
Dydd Llun 20 o Ionawr
Lleoliad y cwrs: Yng Ngorsaf Tan Abertyleri, Bryn yr Orsaf, Aertyleri, NP13 1UJ
Cyrsiau'n cychwyn: 6pm ac yn cymryd tua 2-3 awr
I archebu lle ewch i: http://dragondriver.com/
eu ffonio: 0845 050 4255
(Dalier sylw: Mae galwadau i'r rhif hwn yn costio 2c y funud ynghyd â ffi defnydd eich cwmni ffôn.)
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gyswllt
Traffic Safety Officers
Civic Centre,
Ebbw Vale,
NP23 6XB
Tel No: 01495 355378