Ffioedd Cais Cynllunio
Mae cost gwneud cais am ganiatâd cynllunio yn dibynnu ar y math o waith rydych am ei wneud. Mae rhai mathau o geisiadau cynllunio, megis ychwanegu neu wella mynediad anabledd yn y cartref neu adeiladau cyhoeddus wedi'u heithrio. Lawrlwythwch y ddogfen ffioedd cynllunio sy’n rhestru’r holl ffioedd yma: https://ecab.planningportal.co.uk/uploads/welsh_application_fees.pdf
Mae gan y Porth Cynllunio wybodaeth ddefnyddiol yma hefyd: https://www.planningportal.co.uk/wales/applications/how-to-apply/what-it-costs.
Mae cyfrifydd ffioedd defnyddiol ar-lein hefyd ar y Porth Cynllunio.
Sut i dalu
Os gwnewch gais ar-lein drwy'r Porth Cynllunio gallwch dalu'ch ffi gan ddefnyddio'r gwasanaeth Talu Amdano (dewiswch Taliadau Amrywiol). Rydym hefyd yn derbyn taliadau BACS. Fel arall, gallwch anfon siec yn daladwy i Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi'i phostio i'r Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy, NP23 6DN. Gallwch hefyd dalu dros y ffôn drwy ffonio 01495 311556. Ceir manylion llawn ar wefan y Porth Cynllunio. Os ydych yn cyflwyno eich cais cynllunio drwy'r post bydd angen i chi bostio un copi o'ch ffurflen gais ynghyd ag un copi o'ch dogfennau ategol a'ch taliad yn llawn. Dylid talu'r holl ffioedd a gyflwynir drwy'r post â siec i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent.
Pa mor hir mae'n ei gymryd?
Penderfyniadau Cynllunio: Mae faint o amser a gymerir i wneud penderfyniad yn dibynnu ar y math o ganiatâd cynllunio y gwnaethoch gais amdano.
Anelwn benderfynu ar geisiadau o fewn y cyfnod statudol o 8 wythnos o dderbyn cais cynllunio dilys. Anelwn hefyd benderfynu ar geisiadau sydd angen Asesiad o'r Effaith ar yr Amgylchedd o fewn cyfnod statudol o 16 wythnos.
Os yw'n anymarferol penderfynu ar geisiadau o fewn yr amserlenni statudol (a amlinellir uchod), anfonir llythyrau at yr ymgeiswyr/asiantau yn gofyn iddynt gytuno i ymestyn yr amserlen.
Apeliadau: Os gwrthodir eich cais am ganiatâd cynllunio byddwn yn eich annog i geisio negodi cynllun wedi'i addasu yn hytrach na chyflwyno apêl. Darllenwch fwy am Apeliadau Cynllunio.
Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn cynnwys gwybodaeth am ba mor hir y bydd eich apêl yn ei gymryd.
Dylid nodi mai canllaw cyffredinol yw'r holl amserau, ac y caiff pob cam o'r broses cynllunio ei benderfynu ar sail achos wrth achos a gallai llawer o wahanol ffactorau newid faint o amser a gymerir i wneud penderfyniad penodol er enghraifft p'un ai all swyddogion gytuno ar y cais neu os oes angen rhoi adroddiad arno i'r Pwyllgor Cynllunio. Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth.
Gwybodaeth Gyswllt
Rheoli Datblygu
Rhif Ffôn: (01495) 364847
Cyfeiriad: Cyngor Bwrdeisdref Sirol Blaenau Gwent
Cyfeiriad: Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glyn Ebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: planning@blaenau-gwent.gov.uk