Adeiladu ar gyfer y Dyfodol – adeiladu cyfeillgar i’r amgylchedd

Sut i wneud eich cartref neu adeilad yn effeithlon o ran ynni

  • Ychwanegwch gasgenni i gasglu dŵr glaw o beipiau dŵr o’r gwteri ar y to i’w ailgylchu a defnyddiwch arwynebau hydraidd o amgylch yr adeilad i ganiatáu i’r glaw ddraenio i ffwrdd yn naturiol. 
  • Defnyddiwr peipiau clai gwydrin ar gyfer y draeniau. Mae’r rhai yn defnyddio proses gynhyrchu llai niweidiol na pheipiau PVC (clorid polyfinyl / plastig synthetig), a gellir ei ailgylchu nes ymlaen. Nid yw’n hawdd cael gwared ar PVC, a gall gael ei ddifrodi gan lygod. 
  • Defnyddiwch slabiau concrit newydd neu wedi’u hailgylchu, yn hytrach na cherrig palmant asffalt.
  • Dylai golau allanol gael system reoli ar gyfer defnydd effeithlon, er enghraifft, goleuadau sy’n troi i ffwrdd yn awtomatig pan bod digon o olau dydd, neu pan nad oes eu hangen yn ystod y nos.

Defnyddio deunydd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd

  • Ychwanegwch fwy o inswleiddiad, y tu hwnt i’r gofynion isafswm a argymhellir mewn waliau, toi a lloriau, i arbed ynni. 
  • Defnyddiwch ddeunydd wedi’u hailgylchu – brics, teils a llechi ail law a choncrit wedi’i fathru. 
  • Defnyddiwch wlân mwynol, polystyren estynedig a phapur newydd wedi’i hailgylchu fel inswleiddiad. Mae’r rhain yn defnyddio llai o ynni yn ystod eu cynhyrchu, ac yn cynhyrchu llai o allyriadau niweidiol na pholystyren a polywrethan. 
  • Defnyddiwch goed gydag achrediad FSC (Y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd). 
  • Sicrhewch fod y ffenestri, drysau a goleuadau yn y to yn bodloni’r Rheoliadau Adeiladu newydd a’u bod wedi’u dylunio i arbed ynni. 
  • Defnyddiwch baentiau a staeniau naturiol neu’n seiliedig ar ddŵr na fydd yn niweidio iechyd y peintiwr neu ansawdd yr aer. 
  • Defnyddiwch rimynnau drafft i leihau’r gwres sy’n cael ei golli trwy ddrysau a ffenestri. Defnyddiwch ddefnydd wedi’i rholio y gallwch ei roi ar waelod drysau i stopio drafftiau, a defnyddiwch dâp atal drafft o amgylch ffenestri. 
  • Defnyddiwch ddeunyddiau o siopau adeiladu/cynnal a chadw lleol, fel bod dim rhaid i chi eu cludo’n bell.

Arbed ynni

  • Defnyddiwch foeler cyddwyso nwy ar gyfer eich dŵr a gwres – mae’r rhain yn effeithlon iawn o ran ynni. Os ydych chi’n gweithio ar brosiect mawr, beth am ddefnyddio boeler sy’n cyfuno gwres a phŵer ar gyfer y defnydd gorau o ynni ac er mwyn arbed arian. Gwiriwch gyda Rheoliadau Adeiladu i sicrhau bod eich boeler yn bodloni’r safonau effeithlonrwydd isafswm.
  • Insiwleiddiwch beipiau a thanciau cyfredol i arbed ynni – eto gwiriwch y safonau isafswm gyda Rheoliadau Adeiladu.
  • Gosodwch dŷ bach sy’n arbed dŵr gyda chwymp dŵr deuol.
  • Defnyddiwch dapiau brigau a chawodydd awyredig i ostwng y defnydd o ddŵr.
  • Gosodwch system reoli tymheredd ar gyfer rhannau gwahanol o’r tŷ, er enghraifft, falfiau thermostatig sy’n rheoli tymheredd gwresogyddion, er mwyn i chi beidio â gwastraffu ynni ac arian.
  • Defnyddiwch golau a bylbiau golau ynni isel – rhaid i o leiaf rhai o’r goleuadau mewnol ddefnyddio bylbiau effeithlon o ran ynni, er enghraifft, lampau fflworoleuol.
  • Gosodwch systemau awyru trwy gydol, gydag unedau adfer gwres, sy’n defnyddio gwres o’r awyr a’i roi yn ôl ble mae ei angen yn y tŷ/yr adeilad.
  • Does dim angen i chi gael gwres mewn ystafell wydr – bydd yr haul yn darparu ynni solar yn yr ystafell.
  • Gosodwch ardaloedd storio (y tu mewn neu’r tu allan i’ch cartref/adeilad) er mwyn i chi allu casglu deunydd wedi’i ailgylchu.
  • Ystyriwch ddefnyddio ynni solar. Gellir defnyddio paneli ynni solar i gynhesu dŵr. Mae paneli sy’n dal ynni’r haul, y gellir eu defnyddio yn lle teils ar y to ar gyfer gorchuddio neu doi, yn uchafu effeithlonrwydd ynni ac yn gallu cynhyrchu trydan.

Gwybodaeth Gyswllt

Rheoli Adeiladu
01495 355529
Rheoli Adeiladu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN


building.control@blaenau-gwent.gov.uk