Cytundeb Cyflenwi

Cytundeb Cyflenwi Diwygiedig ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd

Ers cymeradwyo’r Cytundeb Cyflenwi diwygiedig bu oedi nas rhagwelwyd ar nifer o faterion gan olygu bod angen diweddaru’r amserlen ar gyfer y Cytundeb Cyflenwi. Cytunodd Llywodraeth Cymru ar Gytundeb Cyflenwi diwygiedig ym mis Chwefror 2023.

Mae’r Cytundeb Cyflenwi diwygiedig yn cynnwys amserlen newydd ar gyfer paratoi’r Cynllun newydd i drin yr oedi a fu. Dyma grynodeb o’r dyddiadau allweddol

  • Ymgynghori ar y Cynllun Adnau – Haf 2023
  • Cyflwyno’r Cynllun i Lywodraeth Cymru - Mai/Mehefin 2024
  • Archwilio – Haf 2024
  • Cyhoeddi Adroddiad yr Arolygydd – GaeafFinal Easy Read DA 2023 Revised A 2024
  • Mabwysiadu’r Cynllun – Yn gynnar yn 2025

Bydd y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig yn cwmpasu’r cyfnod 2018-2033.

Mae’r Cytundeb Cyflenwi diwygiedig ar gael yma. Mae fersiwn rhwydd ei ddarllen o’r Cytundeb Cyflenwi hefyd ar gael yma.

Cymryd Rhan

Os hoffech gael eich hysbysu am ymgynghoriadau yn y dyfodol ar baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd bydd angen i chi gofrestru eich diddordeb a rhoi eich caniatâd i’ch enw gael ei gynnwys ar ein Cronfa Ddata Ymgynghoriad Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Llenwch y ffurflen os gwelwch yn dda ac anfon e-bost neu gyflwyno copi ysgrifenedig i’r cyfeiriadau a nodir ar y ffurflen.