Help gyda’ch biliau dŵr

Gwasanaeth Cymorth Dyled Cronfa Cymorth Cwsmeriaid Dŵr Cymru

Cynlluniwyd y cynllun Cymorth Dyled Cronfa Cymorth Cwsmeriaid i helpu’r rhai sydd mewn caledi ariannol difrifol i glirio ac ymdopi gyda’u taliadau.

Gallech fod yn gymwys os:

  1. yw eich cyfrif dŵr am eiddo domestig lle’r ydych yn byw ar hyn o bryd
  2. oes gennych ddyled o fwy na £150

I gael mwy o wybodaeth ewch i Cynllun Cymorth Dyled y Gronfa Cymorth i Gwsmeriaid | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)

Cynllun Cymorth Debyd Uniongyrchol Dŵr Cymru

Os ydych mewn caledi ariannol a bod gennych ddyled i Dŵr Cymru gallai’r cynllun hwn eich helpu drwy dalu eich costau dŵr a dyled drwy eich budd-dal.

Gallech fod yn gymwys os:

  1. yw eich cyfrif dŵr am eiddo domestig lle’r ydych yn byw ar hyn o bryd
  2. yw eich ôl-ddyledion yn fwy na £75
  3. ydych yn derbyn un o’r budd-daliadau dilynol
  • Credyd Pensiwn • Credyd Cynhwysol
  • Cymhorthdal Incwm • Lwfans Ceisiwr Swydd Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth(Seiliedig ar Incwm)

I gael mwy o wybodaeth ewch i:  Cynllun Cymorth Dyled Dŵr Uniongyrchol | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)

Tariff HelpU

Mae tariff HelpU yn helpu aelwydydd incwm isel drwy roi uchafswm ar y swm mae’n rhaid i chi dalu am ddŵr.

Gallech fod yn gymwys os:

  1. yw eich cyfrif dŵr am eiddo domestig lle’r ydych yn byw ar hyn o bryd
  2. yw cyfanswm incwm eich aelwyd ar neu dan y trothwy. (1 unigolyn - £10,700, 2 unigolyn - £16,000, 3+ unigolyn £17,700)
  3. yw rhywun yn yr aelwyd yn derbyn o leiaf un budd-dal y mae prawf budd arno:
  • Credyd Pensiwn
  • Budd-dal Tai
  • Credyd Cynhwysol
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant (heblaw am deuluoedd sy’n derbyn yr elfen teulu yn unig)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Cymorth Cyflogaeth Cysylltiedig ag Incwm
  • Lwfans Ceiswyr Swydd Seiliedig ar Incwm (JSA)

I gael mwy o wybodaeth ewch i  Tariff HelpU | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)

Terfyn Bil - WaterSure Cymru

 

Os oes gennych fesurydd yn barod, neu wedi gofyn am hyn, mae tariff Terfyn Bil – WaterSure Cymru yn rhoi terfyn ar y swm sy’n rhaid i chi ei dalu am eich dŵr.

Mae’n rhaid i chi fod â mesurydd dŵr neu ddewis cael gosod mesurydd. Mae’n rhaid i chi fod yn derbyn budd-dal gymwys neu gredyd treth a naill ai:

  1. â 3 neu fwy o blant dan 19 oed yn byw yn eich cartref y gallwch hawlio budd-dal plant ar eu cyfer.
  2. ag aelod o’ch aelwyd gyda chyflwr meddygol sydd angen defnydd sylweddol o ddŵr ychwanegol.

I gael mwy o wybodaeth ewch i Tariff Terfyn Bil - WaterSure Cymru | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)