£140 Gostyngiad Cartref Cynnes
Rydych yn gymwys os ydych yn derbyn elfen credyd Gwarant y Credyd Pensiwn neu’ch bod ar incwm isel ac yn ateb meini prawf eich cyflenwr ar gyfer y cynllun.
Os cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1956 gallech gael rhwng £250 a £600 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi.
Ni fydd angen i chi hawlio eto os ydych wedi cael taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen.
Taliad Tywydd Oer
Gallech gael Taliadau Tywydd Oer os ydych yn derbyn budd-daliadau neilltuol neu gymorth ar gyfer llog morgais.
Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael y taliadau hyn yn awtomatig. Nid oes angen i chi wneud cais, ond gall fod angen i chi ddweud wrth y Ganolfan Byd Gwaith os oes gennych fabi neu fod plentyn dan 5 oed yn dod i fyw gyda chi.
Nid yw’r taliadau hyn yn effeithio ar eich budd-daliadau eraill.
Byddwch yn cael taliad os caiff y tymheredd cyfartalog yn eich ardal ei gofnodi fel, neu y rhagwelir y bydd yn, sero gradd Celsius neu is ar 7 diwrnod olynol.
Byddwch yn cael £25 am bob cyfnod 7 diwrnod o dywydd oer iawn rhwng 1 Tachwedd 2023 a 31 Mawrth 2024.
I gael mwy o wybodaeth ewch i www.gov.uk/cold-weather-payment
Grant £200 i gyn Lowyr
Mae cyn lowyr yn gymwys am grant o £200 i helpu gyda’r cynnydd mewn costau ynni.
Daw’r grant drwy Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo (CISWO).
I ganfod mwy am y grant, cysylltwch â swyddfa CISWO Cymru drwy ffonio 01443 485233 neu anfon e-bost at wales@ciswo.org.uk
Cymorth Cyflenwyr Ynni
Efallai y gall cwsmeriaid sydd mewn dyled i’w cyflenwr ynni gael help i’w dalu. Fodd bynnag, mae llawer o’r cyflenwyr ynni angen i chi ofyn am gyngor i ddechrau gan elusen gydnabyddedig ar gyngor dyledion.
Mae’r cyflenwyr ynni a chyfleustodau dilynol yn cynnig grantiau i’w cwsmeriaid:
- Grant Cymorth Ynni Nwy Prydain
- Cronfa Cwsmeriaid Ynni EDF
- Cronfa Ynni E.ON
- Cronfa Ynni Nesaf E.ON
- ‘Cronfa Octo Assist’ Octopus
- Cronfa Ynni Ovo
- Cronfa Caledi Scottish Power
- Gwasanaethau Blaenoriaeth Western Power Distribution
I gael cefnogaeth, cyngor neu help ychwanegol ewch i Help i Aelwydydd – Cael cymorth costau byw gan y llywodraeth
Cronfa Cymorth ar Ddisgresiwn
Mae’r Gronfa Cymorth ar Ddisgresiwn yn darparu 2 fath o grant nad oes angen i chi ei ad-dalu.
Taliad Cymorth Argyfwng (EAP)
Grant i helpu talu am gostau hanfodol tebyg i fwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio argyfwng os:
- ydych yn profi caledi ariannol difrifol
- wedi colli eich swydd
- wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf
Ni allwch ei ddefnyddio i talu am filiau cyfredol na fedrwch fforddio eu talu.
Taliad Cymorth Unigol (IAP)
Grant i’ch helpu chi neu rywun yr ydych yn gofalu amdanynt i fyw’n annibynnol yn eu cartref neu eiddo yr ydych chi neu nhw yn symud iddo.
Ar gyfer beth y gallwch ddefnyddio’r grant:
Defnyddiwch y grant i dalu am:
- oergell, ffwrn neu beiriant golchi a ‘nwyddau gwyn’ eraill
- celfi cartref tebyg i welyau, soffas a chadeiriau
I gael mwy o wybodaeth ar gymhwyster a sut i wneud cais, ewch i www.gov.wales/discretionary-assistance-fund-daf
Cymru Gynnes
Cefnogaeth a chyngor i unrhyw un sy’n edrych am wybodaeth neu help gydag ymholiadau ynni cartref: https://www.warmwales.org.uk
Nyth Cymru
Mae Nyth Cymru yn darparu gwelliannau effeithiolrwydd ynni cartref am ddim tebyg i foeler newydd, gwres canolog neu insiwleiddia ar gyfer preswylwyr cymwys. Ewch i Hafan – Nyth Cymru – nyth.llyw.cymru neu ffonio 0808 808 2244.