Help ar gyfer teuluoedd gyda phlant

Talebau Dechrau Iach

Os ydych yn fwy na 10 wythnos yn feichiog neu â phlentyn dan 4 oed, gallech fod â hawl i gael help i brynu bwyd iach a llaeth. Os ydych yn gymwys, anfonir cerdyn Dechrau Iach atoch gyda arian arno y gallwch ei ddefnyddio mewn rhai siopau. Caiff eich budd-dal ei ychwanegu at y cerdyn hwn bob 4 wythnos.

I ganfod mwy am y cymorth hwn a sut i wneud cais ewch i Cael help i brynu bwyd a llaeth (Dechrau Iach)

Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent

Mae Partneriaeth Bwyd Blaenau Gwent yn bartneriaeth sy’n cydweithio i adeiladu system fwyd leol iach, fforddiadwy, cadarn a theg.

Mae llawer o fudiadau a chynlluniau ar draws Blaenau Gwent a all eich helpu i gael bwyd.

I gael mwy o wybodaeth am gael help gyda bwyd neu i ganfod banc bwyd yn agos atoch chi ewch i https://bgfoodpartnership.co.uk neu  https://www.facebook.com/groups/261062705859843

Prydau Ysgol am Ddim

Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol

Mae gan bob disgybl ysgol Gynradd o’r Dosbarth Derbyn (yn cynnwys plant dosbarth Meithrin llawn-amser) ym Mlaenau Gwent yn awr hawl i bryd ysgol am ddim.

Cyfnod Allweddol 2 – Cyfnod Allweddol 4:

Gall eich plant gael prydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn unrhyw un o’r dilynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisiwr Gwaith Seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cysylltiedig ag incwm
  • Cymorth dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Credyd Treth Plant (gydag incwm blynyddol o lai na £16,190)
  • Elfen gwarant Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Gwaith ategol – telir am 4 wythnos ar ôl i chi beidio bod yn gymwys am y Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Cynhwysol gydag incwm aelwyd net o lai na £7,400 (£616.67 y mis)

Nid oes gan deuluoedd sy’n derbyn Credyd Treth Gwaith hawl i brydau ysgol am ddim.

I ganfod mwy ac i wneud cais ewch i  Prydau Ysgol am Ddim | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Grant Gwisg Ysgol

Gall disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim ar hyn o bryd wneud cais am y Grant Hanfodion Ysgol o £125 ar gyfer pob disgybl, a £200 ar gyfer y disgyblion hynny sy’n dechrau ar flwyddyn 7, gan gydnabod y costau cynyddol sy’n gysylltiedig gyda dechrau yn yr ysgol uwchradd.

Nid yw disgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim oherwydd trefniadau gwarchod dros dro neu’n derbyn prydau ysgol am ddim cynradd cyffredinol yn unig ac nid brydau ysgol am ddim yn seiliedig ar feini prawf cysylltiedig ag incwm/budd-daliadau yn gymwys am y cyllid hwn.

Bu pob blwyddyn ysgol yn gymwys o fis Ionawr 2022 ymlaen.

Mae pob plentyn sy’n derbyn gofal yn gymwys am y grant, p’un ai ydynt yn derbyn prydau ysgol am ddim ai peidio.

Dim ond unwaith y gall teuluoedd hawlio am blentyn ym mhob blwyddyn ysgol.

Dechreuodd y cynllun ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24 ar 1 Gorffennaf 2023 a bydd yn dod i ben ar 31 Mai 2024.

I gael manylion pellach ewch i Grant Gwisg Ysgol | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Cynnig Gofal Plant Cymru

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn gyfuniad o oriau addysg gynnar am ddim ac oriau gofal plant, ar gyfer rhieni cymwys mewn gwaith plant tair  phedair mlwydd oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.

I ganfod mwy ewch i Gwybodaeth i Rieni | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Trafnidiaeth Ysgol

Ewch i Trafnidiaeth Ysgol | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk) i ganfod mwy am gymorth teithio, cludiant am ddim a llwybrau cerdded diogel.

Cymorth arall i Deuluoedd

Aiff y dolenni isod â chi i dudalennau eraill o fewn y wefan lle gallwch gael gwybodaeth ar

Budd-daliadau a Grantiau Budd-daliadau Ar-lein | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Dechrau’n Deg Dechrau’n Deg | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Teuluoedd yn Gyntaf Teuluoedd yn Gyntaf | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)

Cyngor Ar Bopeth CAB

Gall weithiau fod yn anodd delio gyda materion ariannol, ond os nad ydych yn deall sut mae pethau fel credyd neu forgeisiau yn gweithio, gallech fod ar eich colled yn ariannol neu fynd i ddyled.

Gall Cyngor Ar Bopeth roi’r wybodaeth rydych ei hangen i wneud y dewisiadau cywir.

I gael mwy o wybodaeth a chymorth ewch i  Citizens Advice Caerphilly Blaenau Gwent - Cyngor ar Bopeth Caerffili Blaenau Gwent (citizensadvicecbg.org.uk)