Cymorth a chyngor arall

Cyngor Age Cymru

Mae Cyngor Age Cymru Advice yn cynnig gwasanaeth cymorth am ddim, cyfrinachol a di-duedd. Gallant helpu pobl hŷn, eu teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gyda gwybodaeth a chyngor ar faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn.

I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 0300 303 398 rhwng 9:00am a 4:00pm, dydd Llun i  ddydd Gwener neu anfon e-bost at advice@agecymru.org.uk

Age Cymru

Gofal a Thrwsio

Mae Gofal a Thrwsio yn darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau ymarferol sy’n helpu pobl hŷn yng Nghymru i aros yn ddiogel, twym ac iach yn eu cartrefi eu hunain. Maent yn gosod offer anabledd ac addasiadau, yn cyflenwi gwasanaethau cynnal a chadw caertrefi, helpu i gynyddu incwm a chael mynediad i grantiau a gwneud cartrefi yn ddiogel i ddychwelyd iddynt o ysbyty.

I ganfod mwy ffoniwch 0300 111 333. Croesewir galwadau yn Gymraeg. Hyd yn oed os ydych yn credu nad ydych fel arfer yn gymwys am gymorth ariannol, gallech nawr fod yn gymwys i gael help gyda chostau byw dydd i ddydd.

careandrepair.org.uk

Cyngor Ar Bopeth (CAB)

Gall weithiau fod yn anodd delio gyda materion arian, ond os nad ydych yn deall sut mae pethau fel credyd neu forgisiau yn gweithio, gallech fod ar eich colled yn ariannol neu fynd i ddyled. Gall Cyngor Ar Bopeth roi’r wybodaeth i chi yr ydych ei hangen i wneud y dewisiadau cywir. I ganfod mwy ewch i: Dyledion ac arian – Cyngor Ar Bopeth

Money Helper

Mae Money Helper ar agor i bawb  a gall helpu pobl i glirio eu dyledion, gostwng gwariant a gwneud y mwyaf o’u hincwm.

Maent yn rhoi cyngor diduedd a rhad ac am ddim ac os na wyddant yr ateb, byddant yn eich rhoi ar bem y ffordd ac yn awgrymu rhywun sy’n gwybod.

Undebau credyd, cynilion cymunedol lleol a benthyciadau

Mae unedau credyd yn cynnig dewis heblaw banciau a chymdeithasau adeiladu traddodiadol ar gyfer cynilo a benthyca. Gallant weithiau gynnig cyfraddau gwell na’r stryd fawr.

Mae undeb credyd yn ddarparydd cynilion a benthyciadau cymunedol.

I gael mwy o wybodaeth am undebau credyd, www.moneysavingexpert.com/loans/credit-union

Smart Money Cymru

Mae Smart Money yn fanc cymunedol sy’n ymroddedig i gynnig cynnyrch a gwasanaethau sy’n helpu aelodau i reoli eu harian ac adeiladu hanes o reoli arian da. Maent yn cynnig cydnerthedd ariannol gydag ystod o gyfrifon a gwasanaethau, gan weithio gyda rhanddeiliaid ar draws Cymru, yn darparu llesiant ariannol a chefnogi a chyfrannu at achosion da.

I gael mwy o wybodaeth ewch i https://smartmoneycymru.co.uk/

Money Saving Expert

Mae gan MoneySavingExpert.com, y wefan a sefydlwyd gan Martin lewis, ystod eang o help a chyngor.

Cofrestrwch i  dderbyn cylchlythyr wythnosol am ddim yn cynnwys yr holl gynghorion da ac awgrymiadau diweddaraf: www.moneysavingexpert.com/latesttip