Cael help i dalu am fwyd

Y Banc Bwyd

Ymddiriedolaeth Trussell sy’n rhedeg y rhwydwaith mwyaf o fanciau bwyd yn y Deyrnas Unedig, gan roi bwyd a chymorth i bobl mewn argyfwng.

Gallwch ffonio neu anfon e-bost at y Banc Bwyd lle gallwch siarad am eich sefyllfa a byddant yn eich rhoi mewn cysylltiad gyda’r asiantaeth leol berthnasol.

Lle’n briodol, rhoddir Taleb Banc Bwyd i chi. Bydd angen i chi fynd â’ch taleb i’r Ganolfan Banc Bwyd agosaf.

Mae rhestr o’r canolfannau lleol ac amserau agor ar gael yma: Lleoliadau | Banc Bwyd Blaenau Gwent  Caiff eich taleb wedyn ei gyfnewid am barsel o 3 diwrnod o fwyd argyfwng.

I gael mwy o wybodaeth ewch i https://www.trusselltrust.org/get-help/find-afoodbank/blaenaugwent/

Dod o hyd i fanc bwyd neu ddarparydd cymorth bwyd yn agos atoch chi

Mae nifer o fanciau bwyd/mudiadau ym Mlaenau Gwent sy’n darparu help ar gyfer preswylwyr yn ystod yr argyfwng costau byw.

Yma gallwch ganfod banc bwyd neu fudiad agos atoch chi yn cynnwys manylion cyswllt ac amserau agor pan fyddwn yn gwybod amdanynt.

Mae mwy o wybodaeth am gael help gyda bwyd ar gael yn www.bgfoodpartnership.co.uk