Tirwedd

Mae Cyngor Bwrdeistref Blaenau Gwent yn cynnwys ardal o gymoedd dwfn a rhostir mynyddig agored i’r tywydd.

Er bod yr ardal yn draddodiadol wedi cael ei ystyried yn ardal ddiwydiannol, yn bennaf ar gyfer cloddio am lo a chynhyrchu dur, mae’r defnydd o’r tir bellach yn amaethyddol gyda dros 77% o ardal y tir yn cael ei ddefnyddio ar gyfer tir ffermio, tiroedd comin a mannau agored.

Mae’r dirwedd yn nodweddiadol oherwydd y mynyddoedd uchel gyda thri chwm ag afonydd yn torri ar eu traws. Yn y dwyrain mae Cwm Ebbw Fawr yn rhedeg o Frynmawr trwy Nant-y-glo, Blaina, Abertyleri a Six Bells cyn ymuno ag Ebbw Fawr. Mae Cwm Ebbw Fawr yn cychwyn yn Rasa ac yn disgyn trwy Lynebwy a Chwm tra bod Cwm Sirhowy yn cychwyn y tu hwnt i Drefil trwy Dredegar a lawr tuag ag Coed Duon.

Mae amaethyddiaeth yn cyfri am bron hanner y defnydd o dir yn y Fwrdeistref Sirol. Mae amaethyddiaeth wedi ac yn parhau i siapio llawer o’n cefn gwlad ac mae newidiadau yn rheolaeth amaethyddol yn gallu effeithio ar gynefinoedd (e.e. Coetiroedd brodorol) a rhywogaethau pwysig (e.e. Cornchwiglod).

Mae bodolaeth mannau gwyrdd, parciau, gerddi, coed a rhandiroedd yn ein trefi a phentrefi oll yn gallu darparu lloches i fywyd gwyllt, cyfle i gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r amgylchedd lleol a gwella lles corfforol a meddyliol pobl.

Gwybodaeth a chyngor