Beth yw Bioamrywiaeth?
Mae bioamrywiaeth yn golygu’r ‘amrywiaeth o bethau byw’. Mae’n cynnwys y cyfoeth o blanhigion gwyllt ac anifeiliaid o’n hamgylch ynghyd â’r cynefinoedd sy’n eu cefnogi.
Pwysigrwydd Bioamrywiaeth
- Gwerth cynhenid popeth byw
- Dangosydd allweddol o ddatblygiad cynaliadwy
- Hanfodol er mwyn cynnal ansawdd bywyd gan ein darparu gyda bwyd, dŵr, ocsigen, dillad, lleihau llygredd a gwella’n iechyd a lles
- Nifer o fuddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd
Mae’r Cyngor yn ymrwymedig i amddiffyn a gwella bioamrywiaeth o fewn Blaenau Gwent. Cyflawnir hyn trwy roi’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol ar gyfer Blaenau Gwent ar waith mewn partneriaeth ag ystod eang o fudiadau ac unigolion.
Mae amddiffyn Bioamrywiaeth Blaenau Gwent yn gyfrifoldeb ar nid yn unig y Cyngor neu grwpiau amgylcheddol; mae angen ymrwymiad gan bob un ohonom!
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gyswllt
Ecolegydd: Nadine.morgan@blaenau-gwent.gov.uk
Swyddog Bioamrywiaeth Rebecca.ward@blaenau-gwent.gov.uk