Taliadau Budd-dal Tai

Os oes gennych hawl i Fudd-dal Tai, gellir talu hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd yn dibynnu sut fath o gartref sydd gennych.

Gallwch canfod fod eich taliad cyntaf yn fwy na'r swm rheolaidd arferol oherwydd ei fod yn cynnwys ôl-daliad o ddyddiad eich cais.

Tenantiaid preifat:

Telir budd-dal tai i'r rhan fwyaf o denantiaid preifat, fel ôl-daliad. Os caiff eich Budd-dal Tai ei dalu'n syth i'ch landlord, caiff ei ad-dalu fel ôl-daliad bob pedair wythnos. Mae hyn yn cynnwys landlordiaid cymdeithasau tai.

Taliadau uniongyrchol i landlordiaid

Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl mewn cartrefi rhent preifat, dim ond pan na all y hawlydd drin eu busnes ariannol eu hunain, ei bod yn anhebygol y byddant yn talu eu rhent neu fod ganddynt wyth wythnos neu fwy o ôl-ddyledion rhent y gellir talu budd-dal tai i'r landlord.

Os oes gennych ôl-ddyledion rhent, gallwn wneud y taliad cyntaf i chi ond yn enw eich landlord.

Os oes gennych hawl i ostyngiad Treth Gyngor, yna byddwn yn talu hyn yn uniongyrchol i'ch cyfrif Treth Gyngor. Bydd bil newydd yn dangos y swm sy'n rhaid i chi ei dalu ar ôl gweithredu'r gostyngiad.

Gwybodaeth Gyswllt

Budd-dal Tai
Rhif Ffôn: 01495 311556
Cyfeiriad E-bost: benefits@blaenau-gwent.gov.uk