Cafodd llyfrgell newydd yn Ysgol Gymraeg Bro Helyg ei agor yn swyddogol yr wythnos hon a’i enwi’n gariadus mewn teyrnged i ddisgybl a fu farw yn dilyn salwch byr yn gynharach eleni.
Bu Imogen Prosser, 9 oed, farw ychydig wythnosau yn unig ar cael diagnosis o diwmor ymledol ar goesyn ei hymennydd, ac mae ei holl ffrindiau ysgol a staff yr ysgol yn Blaina, Blaenau Gwent, yn gweld ei cholli.
Roedd Heidi a Mark, rhieni Imogen, yn yr agoriad swyddogol ddydd Llun 12 Medi. Gyda Tyler a Kadie, siblingiaid Imogen, fe wnaethant dorri’r ruban er cof am eu merch a datgan bod y llyfrgell ar agor.
Meddent:
“Rydym yn falch iawn fod ffrindiau Imogen wedi dewis ei hanrhydeddu yn y ffordd hon. Hoffwn ddiolch i’r staff yn Ward yr Enfys yn yr ysbyty yng Nghaerdydd am eu gofal a sylw i Imogen yn ystod ei salwch.”
I gefnogi eu geiriau, mae hefyd gyfeiriad at y ward ar fur y llyfrgell a addurnwyd gydag enfys a bydd yr ysgol yn parhau i gefnogi LATCH yn y dyfodol.
Dywedodd Ms Ann Toghill, Pennaeth yr ysgol:
“Roedd Imogen yn ddisgybl hyfryd, tawel a charedig oedd yn boblogaidd gyda’i chyd-ddisgyblion a gwelir ei cholled yn fawr iawn. Dymunai’r plant gadw’r cof amdani yn fyw drwy enwi’r llyfrgell er anrhydedd iddi a chytunwn i gyd fod hon yn deyrnged addas.”
Ychwanegodd Mr Sion Roberts, y Dirprwy Bennaeth:
“Gofynnodd rhieni Imogen i ni hefyd godi ymwybyddiaeth o elusen LATCH sy’n gwneud gwaith mor dda yn cefnogi plant sydd â chanser a’u teuluoedd. Felly mae disgyblion yr ysgol wedi gwisgo dillad glas heddiw ac wedi gwneud cyfraniadau i gefnogi’r elusen.”
Mae’r llyfrgell newydd yn rhan o ddatblygiad £1 miliwn a gyllidir gan grant Llywodraeth Cymru dan gynllun Cymunedau Dysgu Cynaliadwy. Caiff yr adnodd newydd ei alw yn ‘Llyfrgell Imogen’.