
Yn ystod ymgyrch lanhau a barhaodd am wythnos, mentrodd gwirfoddolwyr allan mewn pob math o dywydd i wella mannau gwyrdd lleol, parciau, dyfrffyrdd a llwybrau cyhoeddus – arddangosiad pwerus o falchder cymunedol a gweithredu dros yr amgylchedd.
Casglwyd bron i 50 bag o sbwriel yn ystod Wythnos Gwirfoddoli Blaenau Gwent, a gynhaliwyd rhwng 19 a 24 Hydref. Trefnwyd yr wythnos gan Cadwch Gymru'n Daclus, a gwelwyd gwirfoddolwyr o bob oed yn dod at ei gilydd i ganolbwyntio ar fannau lle’r oedd llawer o sbwriel, gan wneud gwahaniaeth amlwg i'r amgylchedd.
Ymunodd y Cynghorydd Helen Cunningham, o Ward Llanhiledd â'r gwaith glanhau strydoedd ac afonydd yn Llanhiledd, a dywedodd:
"Mae wedi bod yn wythnos wych, gyda grwpiau cymunedol, sefydliadau a gwirfoddolwyr yn dod at ei gilydd i helpu i drawsnewid yr amgylchedd lleol. Mae'r gwaith y mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi'i wneud i wneud hyn yn bosibl, gan gydweithio â sefydliadau lleol ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, yn anhygoel, ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt."
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gefnogi gan dîm gwasanaethau gwastraff Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, mae Wythnos Gwirfoddoli Blaenau Gwent yn rhan o waith parhaus i gefnogi cymdogaethau glanach a grymuso pobl leol i weithredu yn eu cymunedau.
Dywedodd Debbie Cox, Swyddog Prosiect Cadwch Gymru’n Daclus Blaenau Gwent:
“Rydym yn hynod falch o bawb a roddodd eu hamser, eu hegni a'u brwdfrydedd trwy gydol yr wythnos. Diolch i'w hymdrechion a chefnogaeth ein partneriaid lleol, casglwyd bron i 50 bag o sbwriel, gan greu gwahaniaeth gweladwy a pharhaol ar draws Blaenau Gwent.
“Mae Wythnos Gwirfoddoli yn tynnu sylw at yr effaith anhygoel y gellir ei chyflawni pan ddaw pobl at ei gilydd i ofalu am eu hamgylchedd lleol.
“Gobeithiwn y bydd yr wythnos yn annog hyd yn oed mwy o bobl i gymryd rhan a phrofi’r effaith gadarnhaol y gall gwirfoddoli ei chael ar eu cymuned ac ar eu llesiant eu hunain. P’un a oes gennych awr i’w sbario, neu a hoffech wirfoddoli’n fwy rheolaidd gyda ffrindiau, teulu neu gymdogion, gall Cadwch Gymru’n Daclus ddarparu’r gefnogaeth, yr offer a’r cyfleoedd i’ch helpu i wneud gwahaniaeth.”
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus, www.keepwalestidy.cymru, neu cysylltwch â Debbie Cox yn debbie.cox@keepwalestidy.cymru
