ICAX Limited yn Derbyn Grant Datblygu Busnes i Wella Atebion Ynni Adnewyddadwy

Mae ICAX Limited, cwmni arloesi technoleg glân blaenllaw sy’n arbenigo mewn dylunio systemau adnewyddadwy a phympiau gwres, yn falch o gyhoeddi derbyn Grant Datblygu Busnes gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Bydd y grant hwn yn cefnogi ymdrechion ICAX i ddilysu ac ardystio ei gynhyrchion arloesol, gan gadarnhau ymhellach ei safle yn y farchnad ynni adnewyddadwy.

Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i ariannu ymgynghoriaeth allanol ar gyfer dilysu perfformiad cynnyrch trydydd parti, yn benodol ar gyfer y Cynllun Ardystio Microgynhyrchu (MCS). Mae MCS yn darparu ardystiad annibynnol o gynhyrchion carbon isel, gan sicrhau eu hansawdd a'u diogelwch. Bydd ennill ardystiad MCS ar gyfer Pwmp Gwres ICAX Seren 10 yn dangos ei ansawdd a'i ddiogelwch uchel i gwsmeriaid, gan alluogi masnacheiddio cyflymach a chyrhaeddiad marchnad cynyddol.

Mae cyfleuster ICAX yn Blaenau yn cynhyrchu ystod o gynhyrchion Seren, gan gynnwys pwmp gwres ffynhonnell aer Seren 10 (ASHP), uned hydrolig Seren Hub, a rheolydd pad cyffwrdd Seren Slate. Mae'r cynhyrchion hyn wedi'u datblygu'n ofalus ar gyfer y farchnad ôl-osod domestig trwy brosesau Ymchwil a Datblygu systematig. Mae'r cwmni hefyd wedi creu technoleg ThermalBankTM, sy'n galluogi gwresogi ac oeri cynaliadwy trwy ailgylchu ynni gwres yn rhyng-dymhorol.

“Rydym wrth ein bodd i dderbyn y grant hwn, sydd wedi ein helpu i ddilysu ac ardystio ein datrysiadau pwmp gwres arloesol,” meddai Mark Hewitt, Prif Swyddog Gweithredol, ICAX Limited[GA1] . "Bydd y gefnogaeth hon yn ein galluogi i ddangos ansawdd a diogelwch uchel ein cynnyrch, gan sefydlu ICAX ymhellach fel arweinydd yn y farchnad ynni adnewyddadwy."

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet dros Leoedd, Adfywio a Datblygu Economaidd, "Rydym yn hynod falch o gefnogi ICAX yn eu hymdrechion i ddod ag Ateb Ynni Adnewyddadwy mor arloesol i'r farchnad a mwy o gyflogaeth i'r ardal gyfagos. Edrychwn ymlaen at eu llwyddiant parhaus a'u cyfraniad i'r economi leol."

Ariennir Grant Datblygu Busnes Blaenau Gwent gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU ac fe’i rheolir gan Dîm Busnes ac Arloesi Cyngor Blaenau Gwent. Nod y Grant Datblygu Busnes yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol ym Mlaenau Gwent. Mae’r cynllun bellach ar gau ond mae busnesau sydd angen cymorth ariannol yn cael eu hannog i lenwi’r ffurflen Datganiad o Ddiddordeb ar-lein yn y ddolen isod ac os daw rhagor o arian ar gael o fis Ebrill 2025 ymlaen, byddwn yn cysylltu â busnesau sydd ar y rhestr aros.

https://formbuilder.evolutive.co.uk/formsite/form/f530b997-67cf-4775-af03-1434e30ece30