Grantiau ar gael i wella canol trefi

Mae grantiau i gefnogi eiddo yng nghanol trefi i wneud gwelliannau yn cael eu cynnig ym Mlaenau Gwent o dan gynllun newydd.

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb am Grantiau Gwella Gweledol Canol Trefi a fydd yn helpu perchnogion busnes a landlordiaid i wella ymddangosiad allanol eu heiddo. Gallai hyn gynnwys blaenau siopau, ffenestri, ffasgiâu, arwyddion a rendro.

Gall y grantiau fod hyd at uchafswm gwerth o £25,000, gyda gofyniad i ymgeiswyr ddarparu cyllid cyfatebol o 20 y cant. Rhaid i'r eiddo fod o fewn craidd canol y dref.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent, Steve Thomas:

“Mae preswylwyr yn dweud wrthym eu bod am weld gwelliannau i ganol ein trefi, ac mae ein prif strydoedd yn hanfodol ar gyfer creu lleoedd ffyniannus a bywiog.

"Rydym wedi ymrwymo i ddarparu buddsoddiad a gweithio ar lawr gwlad gyda chymunedau a phartneriaid drwy Y Fargen Blaenau Gwent, gan gynnwys ein rhaglen 'Trefi Gyda’n Gilydd’.

“Bydd y grantiau hyn yn ein galluogi i weithio ochr yn ochr â landlordiaid a pherchnogion busnesau i wella tu allan eu heiddo a gwella golwg canol ein trefi er budd y busnes, y gymuned leol ac ymwelwyr.”

Mae Cronfa Twf Lleol Cymru yn rhaglen fuddsoddi ar gyfer datblygu rhanbarthol sydd â'r nod o gefnogi twf cynhyrchiant mewn ardaloedd sydd â photensial dal i fyny, ac o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd mewn ardaloedd o amddifadedd. Dyfernir y grant hwn gyda'r nod o sbarduno buddsoddiad mewn safleoedd ac adeiladau strategol sy'n bwysig i'r rhanbarth.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno datganiadau o ddiddordeb yw dydd Gwener, 9fed Hydref 2026, a gwahoddir y rhai sy'n bodloni'r meini prawf cymhwysedd i gyflwyno cais llawn. Bydd angen i ymgeiswyr ddangos bod y cyllid cyfatebol o 20 y cant ar gael ganddynt ar adeg cyflwyno eu cais llawn am grant.

Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.