
Mae disgyblion Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm wedi helpu i drawsnewid rhan o dir yr ysgol yn berllan newydd, gan gefnogi dysgu yn yr awyr agored, bioamrywiaeth a llesiant cymunedol.
Cyflawnwyd y prosiect drwy raglen *Lleoedd Lleol ar gyfer Natur*, cynllun grant cyfalaf a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu cymunedau ar draws Cymru i greu lleoedd natur ar garreg eu drws.
Derbyniodd yr ysgol, sydd wedi'i lleoli ym Mrynmawr, Becyn Perllan Ysgol a gynlluniwyd i gynnwys disgyblion a'r gymuned ehangach wrth dyfu a chynaeafu ffrwythau, tra'n creu cynefin newydd ar gyfer bywyd gwyllt. Roedd y pecyn yn cynnwys 15 coeden ffrwythau, 320 o fylbiau brodorol, pecynnau creu cynefinoedd, mainc bicnic wedi'i gwneud o blastig wedi'i ailgylchu, casgen ddŵr, offer llaw ac adnoddau gwybodaeth.
Cymerodd disgyblion Blynyddoedd 3 a 4 ran mewn plannu bylbiau brodorol, cynnal arolwg cynefin a phlannu'r coed newydd. Fe wnaethant hefyd ddysgu am ddiogelwch wrth ddefnyddio offer, gwaith tîm a'r rôl y gall perllannau ei chwarae wrth gefnogi bywyd gwyllt fel pryfed bach, gwenyn a glöynnod byw.
Yn dilyn gwasanaeth ysgol am y berllan a'i manteision amgylcheddol, creodd y disgyblion labeli ar gyfer y coed, gan gynnwys gwybodaeth am pryd y gellir cynaeafu'r ffrwythau, sut maen nhw'n blasu ac a ydynt yn well pan gânt eu coginio neu eu bwyta'n ffres. Cymerodd disgyblion Blwyddyn 2 ran hefyd mewn gweithdy paentio cerrig, gan greu dyluniadau o bryfed bach i'w gosod ger y coed.
Disgwylir i'r prosiect fod o fudd i tua 150 o bobl a fydd yn gallu gweld neu ddefnyddio'r berllan newydd. Cynorthwyodd dau wirfoddolwr gyda'r gwaith gosod, a mynychodd 29 o ddisgyblion sesiynau addysg fel rhan o'r prosiect.
Dywedodd y Pennaeth, Mrs Sarah Oliver-Brynant: “Mae’r ardal wedi’i thrawsnewid yn llwyr. Mae ein disgyblion wedi cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd yn ogystal â chadarnhau’r hyn maen nhw eisoes yn ei wybod wrth blannu a gofalu am y coed ffrwythau. Byddant hefyd yn gallu monitro twf a chynnyrch ffrwythau yn y dyfodol. Mae’r prosiect wedi cyfoethogi ein cwricwlwm dysgu awyr agored ac wedi datblygu ymwybyddiaeth disgyblion o sut i ofalu am eu hamgylchedd, gan gynnwys sut i dyfu a gofalu am blanhigion, ffrwythau a llysiau.”
Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd: “Mae'n wych gweld disgyblion yn Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm yn chwarae rhan mor weithredol wrth greu gofod gwyrddach a mwy croesawgar ar dir yr ysgol. Mae prosiectau fel hyn yn helpu pobl ifanc i gysylltu â byd natur, dysgu sgiliau ymarferol a deall pwysigrwydd diogelu bioamrywiaeth yn eu cymuned leol. Bydd y berllan newydd yn adnodd parhaol i'r ysgol a'r gymuned ehangach am flynyddoedd i ddod.”
Dywedodd un disgybl: “Mwynheais i blannu oherwydd bydd yn gwneud ein hysgol yn lle gwell ac fe gawn ni fwy o wenyn a glöynnod byw.”
Ychwanegodd disgybl arall: “Mae plannu yn bwysig er mwyn helpu ein hamgylchedd.”
Mae'r berllan yn rhan o waith ehangach yr ysgol i gefnogi llesiant cymunedol, dysgu yn yr awyr agored ac ymwybyddiaeth amgylcheddol. Wrth edrych i'r dyfodol, mae'r ysgol yn gobeithio cynnwys aelodau o'r gymuned leol a gwahodd ysgolion cynradd cyfagos i gymryd rhan yn natblygiad y berllan.
Roedd y prosiect hefyd yn cynnwys elfen ychwanegol ar gyfer rheoli dŵr, sydd wedi helpu i wella'r ddarpariaeth draenio a'r mynediad ger y gasebo yn y cae ble mae’r 'ysgol goedwig', yn ogystal ag ardal ychwanegol ar gyfer byrddau a meinciau. Mae'r gwelliannau hyn yn golygu bod modd defnyddio'r mannau'n haws mewn tywydd gwlyb, ac maent wedi creu cyfleoedd pellach i ddisgyblion ddatblygu sgiliau ymarferol, datrys problemau a gweithio fel tîm.
