Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio ar ansawdd bywyd unigolion a chymunedau, gan greu ymdeimlad o ofn ac ansicrwydd a all arwain at droseddau mwy difrifol. Fel rhan o dasglu sydd newydd ei ffurfio sy’n ymroddedig i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Gwasanaeth Ieuenctid ac Adran Addysg Blaenau Gwent wedi cymryd camau rhagweithiol i addysgu a grymuso pobl ifanc yn y gymuned trwy gyflwyno hyfforddiant ymwybyddiaeth o arfau i grŵp o ddysgwyr ifanc.
Mewn partneriaeth â Media Academy Cymru, trefnwyd gweithdai ‘Dewisiadau Dewr’ ganddynt, a gyflwynwyd ar draws canolfannau ieuenctid ac ysgolion ym Mlaenau Gwent ar 16 a 17 Ebrill. Nod y gweithdai hyn oedd codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc am beryglon a chanlyniadau cario arfau, yn enwedig cyllyll. Roedd y sesiynau’n canolbwyntio ar yr effaith ar deuluoedd a ffrindiau ac yn helpu i godi ymwybyddiaeth am gyfreithiau perthnasol mewn perthynas ag eitemau llafnog ac arfau bygythiol.
Hefyd gwnaeth Gwasanaeth Ieuenctid ac Adran Addysg Blaenau Gwent gofrestru dysgwyr ifanc ar ‘Raglen Lleihau Trais’ StreetDoctors, sy’n cyflwyno sesiynau hyfforddiant cymorth cyntaf brys i bobl ifanc yr effeithir arnynt gan drais. Nod y fenter hon yw rhoi gwybodaeth i bobl ifanc a allai achub bywydau mewn sefyllfaoedd brys.
Dysgodd y bobl ifanc sut i ddelio â gwaedu trwy weld enghreifftiau ymarferol a gofyn cwestiynau a thrwy ddysgu am y wyddoniaeth y tu ôl i golli gwaed, a oedd yn egluro rhai camsyniadau cyffredin. Dysgodd y bobl ifanc hefyd sut i roi cymorth cyntaf i rywun sy’n anymwybodol, sut i’w roi yn yr ystum adfer, a sut i berfformio cywasgiadau ar y frest. Yna rhoddwyd y sgiliau newydd hyn ar waith trwy actio senarios i atgyfnerthu eu dysgu.
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Blaenau Gwent yn rhan annatod o dasglu cydweithredol newydd sy’n cynnwys Cyngor Blaenau Gwent, Heddlu Gwent a Chartrefi Cymunedol Tai Calon. Gyda’i gilydd maent yn gweithio tuag at y nod cyffredin o leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ein cymunedau.
Dywedodd Martyn Smith, Arweinydd Trais Difrifol Gwent:
“Mae’r gwaith y mae Gwasanaeth Ieuenctid ac Adran Addysg Blaenau Gwent yn ei wneud i leihau trais yn y gymuned trwy raglenni arloesol fel y rhai a ddarperir gan StreetDoctors wedi gwneud argraff fawr arnaf. Mae’r fenter hon, a gefnogir gan y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, wedi darparu hyfforddiant cymorth cyntaf i bobl ifanc yr effeithir arnynt gan drais, gan roi’r sgiliau ymarferol a’r hyder iddynt helpu eu hunain ac eraill mewn angen. Drwy gydweithio mewn partneriaeth fel rhan o’r Ddyletswydd Trais Difrifol, rydym wedi ymrwymo i leihau trais ieuenctid a gwneud ein cymunedau’n fwy diogel i bawb.”
Mae ymddygiad gwrthgymdeithasol yn cwmpasu unrhyw ymddygiad sy’n achosi neu’n debygol o achosi aflonyddwch, braw neu drallod i un neu fwy o bobl. Gall gynnwys niwsans sŵn, fandaliaeth, sbwriel, tipio anghyfreithlon, delio cyffuriau, bygwth, aflonyddu a throseddau casineb. Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol effeithio ar ansawdd bywyd unigolion a chymunedau a chreu ymdeimlad o ofn ac ansicrwydd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am ein hymdrechion i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, rydym yn eich annog i fynychu ein digwyddiad Siarad Gyda’n Gilydd yn Stryd Fawr, Blaenau, ar 21 Mai rhwng 5pm a 7pm. Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i glywed am y camau yr ydym yn eu cymryd a chael gwybod am sut i adrodd am ddigwyddiadau, ac i’ch llais gael ei glywed wrth lunio ein hymateb ar y cyd i ymddygiad gwrthgymdeithasol.
I gael rhagor o wybodaeth am ymddygiad gwrthgymdeithasol a sut i roi gwybod amdano, gallwch ymweld â’n gwefan drwy ddilyn y ddolen yma: Ymddygiad Gwrthgymdeithasol | Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent (blaenau-gwent.gov.uk)