Mae Gwasanaethau Cymdeithasol Blaenau Gwent newydd gwblhau datblygu 2 POD hunangynwysedig wrth ochr Canolfan Seibiant bresennol Tŷ Augusta, i ymestyn y cyfleusterau ar gyfer seibiant ac ailalluogi. Mae’r datblygiad newydd a blaengar hwn yn cefnogi blaenoriaeth Board Partneriaeth Ranbarthol Gwent drwy gefnogi pobl gydag anableddau dysgu yn cynnwys oedolion ifanc gydag anghenion cymhleth drwy’r broses bontio. Cafodd y datblygiad ei ariannu yn defnyddio arian cyfalaf Cyllid Integredig Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.
Nod y PODs yw rhoi dull aml-ddisgyblaeth, seiliedig ar gryfder i alluogi pobl gydag anabledd i fyw mor annibynnol ag sydd modd o fewn eu cymunedau eu hunain gyda lefelau priodol o gefnogaeth ar hyd y ffordd. Bydd hyn yn hyrwyddo pobl i fedru byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ac osgoi’r angen iddynt symud i leoliadau preswyl.
Mae’r gwasanaeth yn darparu llety i bobl ifanc aros am egwyl byr a hefyd yn rhoi mynediad i amrywiaeth o weithwyr proffesiynol eraill fydd i gyd yn hyrwyddo sgiliau byw annibynnol gwesteion. Bydd hyn yn hanfodol ar draws yr ystodau oedran, yn arbennig westeion rhwng 16-25 oed i’w galluogi i weithio tuag at gyflawni y deilliannau a ddynodwyd ar eu cyfer yng nghyswllt byw’n annibynnol a chael eu cartrefi eu hunain.
Cafodd y ddau POD eu dadorchuddio yr wythnos diwethaf mewn sesiwn wybodaeth i Aelodau Etholedig a bwriedir cynnal parti yn yr ychydig fisoedd nesaf i ddiolch i’r holl unigolion a weithiodd ar y prosiect. Ymysg y rhai a ymunodd â staff gofal cymdeithasol yn y digwyddiad oedd Aelodau Etholedig o’r awdurdod lleol (yr Aelod Llywyddol Cyng Chris Smith, Cyng Haydn Trollop, Cyng George Huymphries, Cyng Sue Edmunds a’r Cyng Derek Bevan) ynghyd â defnyddwyr gwasanaeth ifanc, Abbie, Oliver a Josh, sy’n gobeithio ymweld â’r PODs yn yr ychydig fisoedd diwethaf.
Roedd Abbie, Oliver a Josh wrth eu bodd i weld y canlyniad gorffenedig ac yn edrych ymlaen at ddefnyddio’r cyfleuster fel rhan o’u helpu i symud ymlaen i bennod nesaf eu bywydau annibynnol. Roeddent i gyd yn falch fod ganddynt yn awr le i ymweld ag ef fydd yn cefnogi eu deilliannau sy’n cynnwys dysgu coginio, glanhau eu hystafelloedd a mwynhau hobïau i gyd dan un to.
Dywedodd Abbie, person ifanc fydd yn aros yn y POD yn rheolaidd: “Fedra i ddim aros i ymweld! Mae gennyf fy ystafell wely fy hun sydd ag Alexa fydd yn golygu y gallaf wrando ar ganeuon rwy’n eu mwynhau yn ogystal â gosod larymau i fy atgoffa am fy nhasgau am y diwrnod. Mae’r gwely yn glyd ac mae’n addasu yn ôl yr hyn sy’n gysurus i fi.
Meddai Josh, person ifanc fydd yn hefyd yn ymweld yn rheolaidd â’r POD: “Mae gan y POD bopeth sydd ei angen i fyw yn annibynnol yn cynnwys ffwrn i mi ddysgu sut i wneud bwyd i fi fy hun a’r holl gyfleusterau glanhau i olchi llestri wedyn.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Haydn Trollope, Aelod Cabinet Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Rwy’n wirioneddol groesawu’r PODs yma sy’n ychwanegu at ein cynnig ar gyfer oedolion ifanc gydag anabledd dysgu yma ym Mlaenau Gwent. Rydym yn credu’n gryf mewn helpu preswylwyr bregus o bob oed i fyw mor annibynnol ag sydd modd gan y gwyddom am y buddion niferus sydd gan hyn. Roedd yn wych gweld y PODs yn cael eu defnyddio a chwrdd â rhai o’r bobl ifanc fydd yn manteisio ohonynt. Llongyfarchiadau i bawb a fu â rhan wrth wneud i hyn ddigwydd. Mae’n flaenoriaeth yn y Cynllun Corfforaethol i ni rymuso a chefnogi ein cymunedau i fod yn ddiogel, annibynnol a chydnerth.”
Mae mwy o wybodaeth am wasanaethau Tŷ Augusta ar gael yma: https://www.blaenau-gwent.gov.uk/resident/health-wellbeing-social-care/getting-the-help-you-need/respite-for-learning-disabilities/augusta-house/
Ffôn: 01495 315700
E-bost: DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk
Ffacs: 01495 353350