Dathlu dechrau Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd yn ein Picnic Tedis!

Diolch i bawb a ymunodd â ni Dydd Iau ym Mharc Bedwellte, Tredegar. Cawsom ein syfrdanu gan faint o deuluoedd a alwodd draw i ddathlu diwrnod cyntaf gwych Wythnos Bwydo ar y Fron y Byd 2024.

Yn ogystal â gweithgareddau i bawb o bob oedran, roedd y tîm yno i gynnal trafodaethau addysgiadol am fanteision niferus bwydo ar y fron. Yn ogystal â’r manteision iechyd i chi a'ch babi, gwyddom fod manteision amgylcheddol ac arbedion cost ar gael hefyd. 

Nod yr ymgyrch bwydo ar y fron yw cynyddu'r gyfradd bwydo ar y fron yn ein cymuned. Mae'r arolygon presennol yn dangos bod un o'r cyfraddau bwydo ar y fron isaf yng Nghymru ym Mlaenau Gwent, ac rydym wedi ymrwymo i newid hynny.

Yn gynharach eleni gwnaeth y seren deledu Ferne McCann helpu i lansio ymgyrch #BlaenauGwentynBwydoAry Fron y cyngor. Cyfarfu Ferne â grŵp o famau sy'n bwydo ar y fron yng ngrŵp bwydo Canolfan Dechrau'n Deg y Cwm lle rhannodd Ferne ei phrofiadau. Dywedodd "Rwy'n gobeithio y bydd yr ymgyrch hon yn annog mamau ifanc ym Mlaenau Gwent i gael y cymorth cywir i oresgyn un o'r rhwystrau mwyaf i famau sydd eisiau rhoi cynnig arni - diffyg cefnogaeth".

Am fwy o wybodaeth am daith yr ymgyrch hyd yn hyn gallwch hefyd ddarllen ein hadroddiad Bwydo ar y Fron a gyhoeddwyd yn ddiweddar https://www.blaenau-gwent.gov.uk/media/jbxhbwqd/breastfeeding-report-final.pdf

Diolch unwaith eto am ddangos eich cefnogaeth i'n hymgyrch bwydo ar y fron.

 #BlaenauGwentynBwydoAryFron