Cyngor Blaenau Gwent a Thorfaen i rannu Prif Weithredwr

Yr wythnos hon cytunodd cynghorwyr yng Nghyngor Blaenau Gwent a Chyngor Torfaen i fynd ati i rannu Prif Weithredwr. Dyma’r awdurdodau lleol cyntaf yng Nghymru i wneud hynny.

Mewn cyfarfod arbennig heddiw, cytunodd cynghorwyr Cyngor Blaenau Gwent  yn unfrydol i’r Cyngor weithio’n agosach gyda Chyngor Torfaen, a rhannu Prif Weithredwr sy'n gyfrifol am y ddau awdurdod.

Daeth hyn yn dilyn cymeradwyaeth yng nghyfarfod llawn Cyngor Torfaen a gynhaliwyd ddydd Mawrth.

Bydd Stephen Vickers, Prif Weithredwr presennol Torfaen, yn cyflawni'r rôl hon ar draws Torfaen a Blaenau Gwent am gyfnod cychwynnol o hyd at naw mis.  Bydd Damien McCann, Prif Weithredwr dros dro Blaenau Gwent ar hyn o bryd, yn ymddeol yn ddiweddarach y mis hwn.

Bydd cyfnod darganfod dwys yn digwydd dros y cyfnod o naw mis i archwilio’r manteision a’r heriau fydd y ddau awdurdod yn eu hwynebu wrth weithio’n agosach gyda’i gilydd, ynghyd a mandad i:

·        geisio arbedion effeithlonrwydd drwy ddefnyddio adnoddau a all weithio ar             raddfa.

·        cynyddu arloesedd a chreadigrwydd.

·        a rhannu arfer gorau.

Bydd y ddau gyngor yn cynnal eu sofraniaeth wleidyddol ac ariannol gyda’r naill awdurdod a’r llall yn glynu at ei gynllun sirol ei hun, ei dîm arweinyddiaeth a'i strwythur llywodraethu ei hun.

Dywedodd Stephen Vickers: “Mae'r ddau gyngor yn wynebu heriau tebyg a phwysau ariannol sylweddol yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf ac maent am gadw ar y blaen i fynd i'r afael â'r fath heriau.

“Bydd y ffordd arloesol hon o weithio yn helpu i archwilio ystod eang o gyfleoedd a allai ddeillio wrth weithio'n agosach, a chredaf fod potensial sylweddol i wella gwydnwch, effeithlonrwydd a chyfleoedd pellach i’r ddau gyngor arloesi.

“Fy rôl i yw Prif Weithredwr llawn amser sy’n gweithio ar draws y ddau gyngor ac nid Prif Weithredwr rhan amser neu gam tuag at uno’r ddau gyngor, ond gall liniaru’r risgiau ariannol a gweithredol go iawn y mae’r ddau gyngor yn eu hwynebu.

“Yr hyn sy’n hollbwysig yw bod y ddau gyngor yn gwbl uchelgeisiol o ran gwella gwasanaethau i drigolion ac maent yn ystyried bod y rôl hon yn llwybr tuag at rannu sgiliau, adnoddau ac arbenigedd sefydliadol sy’n fodd hanfodol o gyflawni hyn.”

Bydd adroddiad pellach yn cael ei dderbyn gan y ddau gyngor ar ddiwedd y cyfnod darganfod i amlinellu cyfleoedd pellach.