Bargen Blaenau Gwent – Contract Cymdeithasol Newydd ar gyfer Dyfodol Tecach

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi lansio menter newydd feiddgar i ail-lunio sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu dylunio a'u darparu - ac mae trigolion lleol yn cael eu gwahodd i helpu.

Mae Bargen Blaenau Gwent yn gontract cymdeithasol newydd rhwng y cyngor, trigolion a phartneriaid. Mae'n nodi gweledigaeth gyffredin ar gyfer bwrdeistref decach, iachach a mwy gwydn - un lle mae anghydraddoldebau iechyd yn cael eu datrys a phob preswylydd yn cael ei rymuso i ffynnu.

Anogir trigolion i ymweld â Bargen Blaenau Gwent a chwblhau arolwg byr am eu cymuned, gan helpu i lunio'r blaenoriaethau a'r camau gweithredu a fydd yn sail i'r Fargen.

Bydd y sylwadau a'r safbwyntiau wedyn yn cael eu hystyried gan Gynulliad Dinasyddion yn y Flwyddyn Newydd, gyda'r Fargen i fod yn destun ymgynghoriad pellach ym mis Chwefror.

Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Blaenau Gwent, Stephen Vickers:

"Mae'r Fargen yn newid sylweddol o fodelau traddodiadol o ddarparu gwasanaethau o'r brig i lawr mewn cymunedau. Yn syml iawn, mae’r Fargen yn feddylfryd a fydd yn trawsnewid y ffordd rydyn ni i gyd yn gweithio gyda'n gilydd. Mae'n ymwneud â datblygu perthynas newydd gyda thrigolion a phartneriaid sy'n adeiladu ar y cryfderau a'r gallu mewn cymunedau ac yn ymrwymiad gwirioneddol i weithio gyda'n gilydd i ddylunio a darparu gwasanaethau a chyfleusterau cymunedol.

"Trwy weithio gyda'n gilydd gyda ffocws ar atal, grymuso a chydweithio, nod y Fargen yw torri'r cylch o alw cynyddol a chyllidebau gostyngol a chreu'r sylfeini i wella lles cymunedol hirdymor."

Mae'r Fargen wedi'i hadeiladu o amgylch pum cenhadaeth allweddol:

  • Blynyddoedd Cynnar – Adeiladu Dyfodol Disglair: Cefnogi plant a theuluoedd i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.
  • Dysgu Gydol Oes a Gwytnwch: Creu cyfleoedd i bobl o bob oed ddysgu, tyfu ac addasu.
  • Lles trwy Arweinyddiaeth Gymunedol: Grymuso pobl leol i arwain newid a gwella iechyd a hapusrwydd.
  • Economi Ffyniannus a Lleoedd Llewyrchus: Creu gofodau a chyfleoedd lle mae busnesau a chymunedau'n ffynnu gyda'i gilydd.
  • Cymunedau Grymus – Pŵer a Llwyddiant Cyffredin: Rhoi pŵer yn nwylo trigolion i lunio blaenoriaethau lleol a chyd-gynhyrchu atebion.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Steve Thomas:

"Mae angen Bargen arnom ni oherwydd, ers 2010, mae cynghorau yng Nghymru wedi colli cyllid craidd sylweddol ac ar yr un pryd mae'r galw am wasanaethau hanfodol wedi cynyddu. Er mwyn cydbwyso cyllidebau mae cynghorau wedi cael eu gorfodi i godi incwm a thorri llawer o wasanaethau cyffredinol a chymunedol, ac yn syml ni all hyn barhau. Mae angen perthynas newydd â thrigolion a meddylfryd newydd ar draws y fwrdeistref gyfan i godi dyheadau a disgwyliadau o ran yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd. 

"Ochr yn ochr â Chyngor Torfaen rydym eisoes yn cymryd camau beiddgar a gynlluniwyd i greu dyfodol lle gall pawb ffynnu yn ein bwrdeistref a bod yn falch o wneud pethau'n wahanol. Ni yw'r cynghorau ffederal cyntaf yng Nghymru, gan leihau costau uwch reolwyr, y cynghorau Marmot cyntaf i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd, a nawr y cynghorau cyntaf i ddatblygu Bargen gyda'n cymunedau.  

"Drwy rymuso ein cymunedau a buddsoddi mewn atal, gallwn fynd i'r afael ag achosion sylfaenol anghydraddoldeb a datgloi potensial llawn Blaenau Gwent gyda'n gilydd."

Er mwyn cyflawni'r genhadaeth hon, mae'r Cyngor yn gwneud newid diwylliannol a gweithredol sylfaenol - alinio buddsoddiad a gwasanaethau ar sail atal, tegwch a gwytnwch, a chefnogi staff i weithio'n agos gyda'n cymunedau fel arweinwyr a gweithredwyr newid.

Sut i gymryd rhan

Gwahoddir preswylwyr, grwpiau cymunedol a phartneriaid i gymryd rhan yn y gwaith o lunio’r Fargen. Ymwelwch â Bargen Blaenau Gwent i gwblhau'r arolwg a dysgu mwy am ddigwyddiadau ymgysylltu sydd ar ddod.

Gall trigolion hefyd gymryd rhan drwy ymuno â Chynulliad Dinasyddion Blaenau Gwent am dair sesiwn yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror. Bydd llythyr yn cael ei anfon gyda dyddiad cau i gofrestru cyn y 30ain o Dachwedd. Bydd y cyfranogwyr wedyn yn cael eu dewis ar hap trwy broses gynrychioliadol i sicrhau bod y cynulliad yn adlewyrchu amrywiaeth y gymuned.

Mae hwn yn gyfle gwych i helpu i lunio dyfodol y fwrdeistref.