Mae’n bleser gennym lansio ein harolwg Cyflwr Gofalu 2022, a byddem yn ddiolchgar iawn am eich cymorth i annog gofalwyr i gymryd rhan. Mae’r holl wybodaeth a gawn gan ofalwyr yn ein helpu i greu darlun o sut beth yw gofalu ar hyn o bryd ac rydym yn awyddus i glywed gan gymaint o wahanol ofalwyr â phosibl.
Mae’r Arolwg Cyflwr Gofalu yw ymchwil fwyaf cynhwysfawr y DU i fywydau a phrofiad gofalwyr. Rydym am ddeall blaenoriaethau gofalwyr ar gyfer y dyfodol a pha gymorth sydd ei angen arnynt i helpu i wella ar ôl y pandemig, ac i greu gwaddol cadarnhaol ar gyfer y dyfodol. Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth i barhau i ymgyrchu dros gael gwell cymorth i ofalwyr. Gwyddom fod ein tystiolaeth wedi helpu i lunio polisi’r Llywodraeth ac wedi helpu comisiynwyr a sefydliadau darparu gwasanaethau i edrych ar arfer.
Gofynnwn i chi rannu ein harolwg â'ch cefnogwyr lle bynnag y bo modd. Rydym yn gwerthfawrogi pob un sy'n cymryd yr amser i gwblhau'r arolwg. Byddem yn croesawu’n arbennig ymatebion gan ofalwyr o gymunedau llai eu clyw, megis gofalwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig a gofalwyr LGBTQ+.
Gyda'ch gilydd rydych chi'n ein helpu i baentio llun o effaith mae gofalu wedi cael ar eich bywydau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Rhannwch y ddolen yma os gwelwch yn dda: https://www.surveymonkey.co.uk/r/YR36SHQ
Bydd yr arolwg yn cau ar 9 Medi a byddwn yn rhyddhau adroddiad ymchwil ym mis Tachwedd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr ymchwil, cysylltwch â’n tîm polisi drwy e-bostio info@carerswales.org
Arolwg Gofalwyr DU yw hwn ac felly dim ond yn Saesneg y mae ar gael.