Rhaglen yw Ewch Allan Byddwch Actif (EABA) a fydd yn cefnogi gofalwyr di-dâl a’r rheiny sy’n derbyn gofal i fwynhau bod yn actif gyda’i gilydd.
Mae EABA’n ceisio gwneud gweithgareddau’n fwy cynhwysol, cefnogi pobl i symud mwy ac annog pobl i fyw bywyd actif ac iach.
Mae EABA’n cefnogi sefydliadau a grwpiau ar draws y DU i ymgysylltu â chymunedau mewn ffordd hwyliog a chynhwysol
- Addas i bob oedran
- Gall gofalwyr a’r rheiny sy’n derbyn gofal fynychu gweithgareddau gwahanol ar yr un pryd, gall digwyddiadau fod ar yr un pryd yn yr un lle
- Cyfle i gwrdd â gofalwyr eraill a gwneud cysylltiadau cymdeithasol
- Bydd sesiynau blasu ar gael i chi roi tro ar weithgaredd
- Cymerwch ran fel teulu
- Gall cymwysterau/cyfleoedd hyfforddi fod ar gael
Rhai gweithgareddau y gallech fod â diddordeb ynddyn nhw:
- Criced
- Pêl Fasged Cadair
- Olwyn
- Ioga
- Gweithgareddau
- Hyfforddi
- Pêl-droed Dosbarthiadau
- Ffitrwydd/Symudedd Pêl Foli
- Bowlio
- Pêl Fasged
- Dosbarthiadau Ymarfer
- Corff mewn Cadair
- Pêl Foli wrth Eistedd
- Gweithgareddau
- Campfa wedi eu
- Haddasu
Rydym yn agored i unrhyw syniadau eraill am weithgareddau, felly cysylltwch â ni.
Dyw bod yn ofalwr ddim yn golygu bod rhaid i chi golli cyfleoedd.
Gadewch i ni fynd allan a bod yn weithgar!
Os oes diddordeb gyda chi mewn dysgu mwy am EABA neu os oes gyda chi weithgaredd yr hoffech chi awgrymu, cysylltwch â Brona Oakerbee:
brona.oakerbee@torfaen.gov.uk i gychwyn.
Nodwch, os gwelwch yn dda, gan ddibynnu ar y gweithgaredd a/neu gyfleusterau y mae eu hangen, efallai bydd y digwyddiadau yma’n digwydd yn ganolog yn rhanbarth Gwent