Gweithgaredd ar y cyd i’r Rheiny sy’n Rhoi a Derbyn Gofal

Rhaglen yw Ewch Allan Byddwch Actif (EABA) a fydd yn cefnogi gofalwyr di-dâl a’r rheiny sy’n derbyn gofal i fwynhau bod yn actif gyda’i gilydd.

Mae EABA’n ceisio gwneud gweithgareddau’n fwy cynhwysol, cefnogi pobl i symud mwy ac annog pobl i fyw bywyd actif ac iach.
 
Mae EABA’n cefnogi sefydliadau a grwpiau ar draws y DU i ymgysylltu â chymunedau mewn ffordd hwyliog a chynhwysol

  • Addas i bob oedran
  • Gall gofalwyr a’r rheiny sy’n derbyn gofal fynychu gweithgareddau gwahanol ar yr un pryd, gall digwyddiadau fod ar yr un pryd yn yr un lle
  • Cyfle i gwrdd â gofalwyr eraill a gwneud cysylltiadau cymdeithasol
  • Bydd sesiynau blasu ar gael i chi roi tro ar weithgaredd
  • Cymerwch ran fel teulu
  • Gall cymwysterau/cyfleoedd hyfforddi fod ar gael

Rhai gweithgareddau y gallech fod â diddordeb ynddyn nhw:

  • Criced
  • Pêl Fasged Cadair
  • Olwyn 
  • Ioga
  • Gweithgareddau
  • Hyfforddi
  • Pêl-droed Dosbarthiadau
  • Ffitrwydd/Symudedd Pêl Foli
  • Bowlio
  • Pêl Fasged
  • Dosbarthiadau Ymarfer
  • Corff mewn Cadair
  • Pêl Foli wrth Eistedd
  • Gweithgareddau
  • Campfa wedi eu
  • Haddasu

Rydym yn agored i unrhyw syniadau eraill am weithgareddau, felly cysylltwch â ni.
Dyw bod yn ofalwr ddim yn golygu bod rhaid i chi golli cyfleoedd. 
Gadewch i ni fynd allan a bod yn weithgar!

Os oes diddordeb gyda chi mewn dysgu mwy am EABA neu os oes gyda chi weithgaredd yr hoffech chi awgrymu, cysylltwch â Brona Oakerbee:
brona.oakerbee@torfaen.gov.uk i gychwyn.

Nodwch, os gwelwch yn dda, gan ddibynnu ar y gweithgaredd a/neu gyfleusterau y mae eu hangen, efallai bydd y digwyddiadau yma’n digwydd yn ganolog yn rhanbarth Gwent