Os oes gennych ddiddordeb mewn dweud eich dweud ar y materion sy'n effeithio arnoch chi a'ch cymuned yna efallai yr hoffech ymuno â'n Panel Dinasyddion, Lleisiau ein Cymoedd neu Fforwm 50+.
E-bostiwch: PPS@blaenau-gwent.gov.uk am fwy o wybodaeth ac i gymryd rhan.
Panel Dinasyddion Blaenau Gwent
Fel aelod o'n Panel Dinasyddion ymgynghorir â chi ar ystod eang o faterion sy'n effeithio ar Flaenau Gwent. Cysylltir â chi o bryd i'w gilydd i ofyn am eich barn ar amrywiaeth o faterion drwy e-bost, ac yn bersonol os dymunwch. Drwy fod yn aelod gallwch wneud gwahaniaeth go iawn i'ch ardal a gwella'r gwasanaethau yr ydych chi a'ch cymuned yn dibynnu arnyn nhw.
Fforwm 50+
Mae'r Fforwm 50+ yn rhad ac am ddim i'w fynychu, yn anwleidyddol ac yn agored i bawb. Mae'n gweithredu fel llais ar y cyd i bobl 50 oed a hŷn sy'n byw, gweithio neu'n ymweld â Blaenau Gwent yn aml. Mae'n hyrwyddo buddiannau pobl 50 oed neu'n hŷn ac yn rhoi cyfle i bobl ddod at ei gilydd, cymdeithasu a thrafod pethau sydd bwysicaf i chi. Ein nod yw codi ymwybyddiaeth o'r cyfraniad y mae pobl hŷn yn ei wneud i'n cymdeithas a gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i bobl 50+ oed. Mae'r fforwm yn cwrdd yn rheolaidd ac mae'n cynnwys siaradwyr gwadd, gweithgareddau a dadleuon.
Lleisiau Ein Cymoedd
Mae Lleisiau Ein Cymoedd yn fforwm cydraddoldeb sy'n ceisio codi proffil yr agenda cydraddoldeb a darparu cefnogaeth i bobl sy'n cael eu gwarchod gan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010). Mae gan y fforwm aelodaeth amrywiol yn cynnwys grwpiau ac asiantaethau lleol yn ogystal ag aelodau o'r cyhoedd. Mae'r fforwm yn darparu cyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau ymgynghori, yn ogystal â chydweithio â sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector i gefnogi prosiectau allweddol fel ail-ddylunio gwasanaethau.
Dogfennau Cysylltiedig