Yr Iaith Gymraeg ym Mlaenau Gwent

Safonau’r Iaith Gymraeg

Cafodd y Cynllun Iaith Gymraeg statudol blaenorol a gymeradwywyd dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993, ei ddisodli gan ofynion Safonau’r Gymraeg.

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn mynd ati i foderneiddio’r fframwaith cyfreithiol ynglŷn â defnyddio’r Gymraeg wrth gyflawni gwasanaethau cyhoeddus.  Ym Medi 2015, rhoddwyd Nodyn Cydymffurfio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent , oedd yn nodi’r gofyn i weithredu 171 o’r 176 o Safonau’r Gymraeg. (Gweler y cyswllt isod)

Nod Safonau’r Gymraeg yw:

  • Gwella’r gwasanaethau y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl eu cael gan sefydliadau penodol yn y Gymraeg; 
  • Cynyddu’r defnydd y mae pobl yn ei wneud o wasanaethau Cymraeg; 
  • Ei gwneud yn glir i sefydliadau beth sydd angen iddynt ei wneud o ran y Gymraeg; a 
  • Sicrhau bod cysondeb priodol o ran y dyletswyddau a roddir ar gyrff yn yr un sectorau.

Dan Safonau 158, 164 a 170, mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddyletswydd i gynhyrchu Adroddiad Blynyddol yn Gymraeg ar yr Iaith Gymraeg. (Gweler y cyswllt isod). Rydyn ni’n falch i gyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol Monitro’r  Iaith Gymraeg 2020-2021 sydd yn canolbwyntio ar y cynnydd a gwnaed gan yr awdurdod lleol ar gyfer cydymffurfio â’r Safonau.

Dan Safon 145, mae’n rhaid i’r Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg bum mlynedd (gweler y cyswllt isod)  sy’n nodi sut mae’r Cyngor yn bwriadu hyrwyddo’r Gymraeg a hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn fwy eang ym Mlaenau Gwent.

Dogfennau Cysylltiedig