Dogfen Ymgynghori Statudol: Cynnig i Ymestyn Capasiti Ysgol Arbennig Pen y Cwm

Trosolwg

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn adolygu capasiti ei ysgolion yn flynyddol. Felly mae’r Cyngor yn ymateb i’r cynnydd mewn galw a thwf a nodwyd dros y 3 blynedd ddiwethaf, yn unol â cheisiadau am leoli disgyblion ar gyfer Ysgol Arbennig Pen y Cwm. Mae Ysgol Arbennig Pen y Cwm yn darparu ar gyfer disgyblion (rhwng 3-19 oed) gyda sbectrwm eang o anghenion addysgol a meddygol arbennig cymhleth, yn cynnwys anawsterau dysgu dwys a lluosog. Mae’r ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion Blaenau Gwent, ynghyd â disgyblion o’r tu allan i’r sir ar hyn o bryd.

Cenhadaeth yr ysgol yw: “Grymuso a chefnogi unigolion i fod yn gryf ac yn annibynnol ac i ddatblygu sgiliau i gyrraedd eu potensial”.

Y Cynnig

Mae’r ymgynghoriad hwn yn adeiladu ar yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2021 i gynyddu capasiti Ysgol Arbennig Pen y Cwm o 175 i 205 o ddysgwyr yn 2026, sy’n fwy na 10% o gyfanswm capasiti’r ysgol. Mae hefyd yn datblygu elfennau o Ran 2 o gynnig 2021. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cynnig ymestyn y capasiti yn Ysgol Arbennig Pen y Cwm o 205 i 250 o leoedd yn y tymor hir, fel y manylir yn Rhan 2 isod. Er mwyn hwyluso’r capasiti estynedig, ailwampiwyd yr amgylchedd dysgu presennol gan y cyngor i greu lleoedd ystafell ddosbarth ychwanegol a chyfleusterau cysylltiedig, h.y. toiledau. Yn ogystal, ac ochr yn ochr â hyn, nododd y cyngor y byddai angen symud y ddarpariaeth ôl-16 o’i lleoliad presennol ar y safle a’i rhoi yn Vision House, Glynebwy, sy’n creu darpariaeth fwy cynaliadwy lai na hanner milltir o’r adeilad presennol. Mae’r cyngor wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda’r ysgol i ddatblygu cynllun hirdymor i gefnogi twf a datblygu cynaliadwy. Felly, bydd y cynnig hwn yn cael ei gyflwyno mewn dwy ran:

  • Rhan 1: Cynyddu capasiti Ysgol Arbennig Pen y Cwm o 175 i 205 o leoedd i baratoi ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Bydd hyn hefyd yn cynnwys:

o   Cydnabod yn ôl-weithredol y ddarpariaeth ôl-16 yn Uned 4, Safle’r Ŵyl, Glynebwy (gan gynnwys tair ystafell ddosbarth, ystafell synhwyraidd, ystafell gyffredin, ystafell sgiliau bywyd, ystafell gyfarfod, ardal arlwyo/fwyta, toiledau a chyfleusterau hylendid)

o   Cydnabyddiaeth ôl-weithredol o ystafelloedd dosbarth ychwanegol a ddatblygwyd ym mhrif adeilad yr ysgol

  • Rhan 2: Cynyddu capasiti Ysgol Arbennig Pen y Cwm ymhellach o 205 i 250 o leoedd i baratoi ar gyfer blwyddyn academaidd 2030/31. Bydd hyn yn cynnwys parhau â datblygiad y cynllun hirdymor i sicrhau capasiti ychwanegol, gan gynnwys naill ai darpariaeth adeilad newydd ar y tir gerllaw’r ysgol neu ailwampio adeilad presennol yr ysgol i ddarparu ar gyfer y capasiti cynyddol.

Byddai’r cynnig yn cefnogi gweledigaeth Blaenau Gwent ar gyfer addysg, sydd fel a ganlyn:

Grymuso ein cymunedau i fod yn ddysgwyr gydol oes sy’n uchelgeisiol, egwyddorol a gwybodus ac sy’n byw bywydau llawn ac iach.

Mae'r Ymgynghoriad Swyddogol bellach wedi dod i ben ar Dydd Sul 18 Ionawr 2026, serch hynny, bydd copi yn parhau i fod ar gael ar y wefan am wybodaeth.

Mae'r Hysbysiad Statudol yn rhedeg o Dydd Mercher 25 Chwefror 2026 i Dydd Mercher 25 Mawrth 2026.

Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi'u cofnodi yn y cyfnod hwn.

Ddydd Iau 30 Ebrill 2026, yn unol â'r gofynion a nodir yn Neddf 2013 a'r Cod cysylltiedig, ystyriodd Cabinet y Cyngor y cynnig yn unol â chanlyniad y cyfnod Hysbysiad Statudol, gan nodi nad oedd unrhyw wrthwynebiadau ffurfiol i'r cynnig. Felly, penderfynodd y Cabinet y dylid gweithredu'r cynnig a fanylir yn yr Hysbysiad Statudol, er mwyn sicrhau twf a datblygiad cynaliadwy Ysgol Arbennig Pen y Cwm. 

HYSBYSIAD PENDERFYNIAD diedyddiedig 5 Mai

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ar yr wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda naill ai drwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk, neu drwy ein ffonio ar (01495) 355116.

Dogfennau Cysylltiedig