Cynnig i leihau'r capasiti yng Ngham Gynradd Cymuned Dysgu Abertyleri

Trosolwg

Fe sefydlodd Cyfarwyddiaeth Addysg Blaenau Gwent Gymuned Ddysgu Abertyleri ym mis Medi 2016. Mae’r gymuned ddysgu’n cynnwys tri champws cynradd sydd wedi’u lleoli ar Heol Roseheyworth, Heol y Chwe Chloch a Stryd Tyleri ynghyd ag un campws uwchradd ar Stryd Alma; sydd, gyda’i gilydd, yn ysgol pob oed. 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn adolygu capasiti ei ysgolion yn flynyddol. Gan hynny, mae’r Cyngor yn ymateb i’r lefel uchel o leoedd gwag yng nghampysau Cynradd Cymuned Ddysgu Abertyleri.

Y Cynnig

Mae’r ymgynghoriad hwn yn cynnig lleihau’r capasiti lleoedd cynradd ar y cyfan yng Nghymuned Ddysgu Abertyleri o 980 i 770 – gostyngiad o 210 o leoedd (21%) – trwy gau un campws cynradd. Yr opsiwn a ffefrir yw cau Campws Heol Roseheyworth, sydd â’r nifer isaf o ddisgyblion o oedran statudol ar y gofrestr (119) a’r lefelau uchaf o waith cynnal a chadw sydd wedi ôl-gronni oherwydd oedran a chyflwr yr adeilad. Gellir rhoi lle i’r holl ddisgyblion sy’n mynychu Campws Heol Roseheyworth ar hyn o bryd ar safleoedd y campysau cynradd a fydd yn weddill.

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn cefnogi uwch dîm arwain Cymuned Ddysgu Abertyleri i sicrhau parhad cyfleoedd dysgu cynradd o ansawdd da ar draws yr ysgol. Mae’r Cyngor yn dal i fod yn ymrwymedig i gydweithio gyda’r ysgol i ddatblygu cynllun hirdymor sy’n cefnogi twf, datblygiad a deilliannau gwell ar sail barhaus.

Felly, bydd y cynnig hwn yn cael ei gyflawni fel a ganlyn:

  • I lleihau capasiti'r ysgol gynradd, sy'n rhan o Gymuned Ddysgu Abertyleri, o 980 i 770, i leihau capasiti corfforol Cymuned Ddysgu Abertyleri drwy gau Campws Heol Roseheyworth a symud disgyblion i'r campysau sy'n weddill (Campws Six Bells a Champws Stryd Tyleri) gyda gweithredu'n raddol yn dechrau o fis Medi 2026 a chyda gweithredu'n llawn erbyn mis Medi 2027.

Byddai’r cynnig yn ategu Gweledigaeth Blaenau Gwent ar gyfer Addysg fel a ganlyn:

‘Grymuso ein cymunedau i fod yn ddysgwyr gydol oes uchelgeisiol, egwyddorol a gwybodus sy’n byw bywydau llawn ac iach.’

Mae'r Ymgynghoriad Ffurfiol bellach wedi dod i ben ar Dydd Mawrth 14 Ebrill 2026.

Mae'r Cyfnod Hysbysiad Statudol hefyd bellach wedi dod i ben ar Dydd Mercher 3 Mehefin 2026.

Aeth y Adroddiad Ymhelaethau i Gabinet y Cyngor llawn ar gyfer penderfyniad ar Dydd Mercher 15 Gorffennaf 2026 ac mae copi ar y dudalen hon i wybodaeth. Cafwyd cyfanswm o 389 o wrthwynebiadau i'r cynnig, gyda gweithredu llawn o Fedi 2027.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau ar yr wybodaeth a gynhwysir yn y ddogfen, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda naill ai drwy ddefnyddio cyfeiriad e-bost 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk, neu drwy ein ffonio ar (01495) 355116.

Dogfennau cysylltiedig