Cynllun Corfforaethol
Mae'r Cynllun Corfforaethol yn nodi'r weledigaeth, y gwerthoedd a'r blaenoriaethau ar gyfer Cyngor Blaenau Gwent ar gyfer 2022/27. Mae'n amlinellu nid yn unig yr hyn y gall pobl Blaenau Gwent ei ddisgwyl gan y Cyngor ond hefyd yr hyn y mae'r Cyngor yn ei ofyn gan ei ddinasyddion a'i bartneriaid. Mae'n ymwneud â chyflawni canlyniadau gwirioneddol i bobl Blaenau Gwent ac mae wedi'i ategu gan gynlluniau busnes cadarn a chynaliadwy, gan sicrhau y gellir dwyn y Cyngor i gyfrif am yr hyn y mae wedi addo ei gyflawni.
Cynllun Corfforaethol Blaenau Gwent 2022/27
Cynllun Corfforaethol Blaenau Gwent 2022/27
Fel Cyngor mae’n bwysig ein bod yn gallu dangos y cynnydd rydym wedi’i wneud yn erbyn y blaenoriaethau a amlinellwyd yn ein Cynllun Corfforaethol. Felly mae cynllun gweithredu blynyddol, a chyfres o Ddangosyddion Perfformiad Allweddol wedi’u datblygu. Mae rhain yn dangos y gweithgareddau arfaethedig ar gyfer 2023/2024 sy'n cyd-fynd â'n hamcanion corfforaethol, bydd hyn yn helpu i nodi lle rydym yn perfformio'n dda ac yn helpu i ysgogi gwelliannau yn y dyfodol. Bydd y Cyngor yn rhoi diweddariad ar gynnydd yn erbyn y camau gweithredu a’r dangosyddion perfformiad allweddol pan fyddant ar gael.
Hunanasesiad 2023/24 Cyngor Blaenau Gwent
Hunanasesiad 2023/24 Cyngor Blaenau Gwent Crynodeb
Dogfennau Cymorth Hunanasesu 2023
Canlyniadau 2023/24