Diogelwch Tân Gwyllt

Cynllun Cofrestru Gwirfoddol Am Ddim ar gyfer Arddangosfeydd Tân Gwyllt

Ydych chi'n bwriadu cynnal arddangosfa tân gwyllt gyhoeddus?

Os ydych chi, darllenwch y wybodaeth isod.

Er mwyn sicrhau bod pawb yn mwynhau digwyddiad hapus ac un heb ddamweiniau, mae'r Cyngor yn cynnal Cynllun Cofrestru Gwirfoddol am ddim ar gyfer arddangosfeydd tân gwyllt, ar gyfer y rhai sy'n trefnu digwyddiadau o'r fath yn yr ardal.

Unwaith y derbynnir ffurflen gais wedi'i chwblhau, trefnir apwyntiad i gynnal ymweliad safle cynghori, a gellir darparu argymhellion ar gyfer gwelliannau i'ch helpu i gynnal digwyddiad diogel.

Rhoddir Tystysgrif Cofrestru i geisiadau llwyddiannus.

Os hoffech wneud cais am gofrestriad, llenwch y ffurflen gais ar-lein neu cysylltwch â'r Tîm Masnachol - Diogelu'r Cyhoedd.

Trefnu Digwyddiad

Ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i gael rhagor o gyngor iechyd a diogelwch ar drefnu arddangosfeydd tân gwyllt.

Nid yw'r Cyngor yn trefnu, yn rhedeg nac yn goruchwylio'r digwyddiadau hyn. Gall trefnwyr digwyddiadau geisio cyngor diogelwch gan y Cyngor; darperir hwn yn unol â chanllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys "Giving your own firework display: How to run and fire it safely" a "Working together on firework displays: A guide to safety for firework display organisers and operators".

Os ydych chi'n cynllunio digwyddiad tân gwyllt neu goelcerth, mae cyngor a chymorth ar gael gan ESAG (Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau) Blaenau Gwent. Mae'r grŵp hwn yn helpu trefnwyr i gynllunio a chyflwyno digwyddiadau diogel a llwyddiannus i'r cyhoedd yn ardal Blaenau Gwent. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Trefnu Digwyddiad | CBS Blaenau Gwent

Storio a Gwerthu Tân Gwyllt

I'r rhai sy'n ymwneud â defnyddio tân gwyllt at ddibenion masnachol, mae'r HSE yn cynnig cymorth pellach ynghylch arferion trin diogel yn eu canllawiau storio a gwerthu tân gwyllt.

Gellir cadw hyd at 50 kg (net) o dân gwyllt Math Perygl 4 (HT4) am ddim mwy na 21 diwrnod heb fod angen trwydded, ar yr amod nad ydynt ar gyfer eu gwerthu na'u defnyddio yn y gwaith. Os ydych am ddefnyddio'r tân gwyllt ar gyfer arddangosfa fasnachol neu ryw weithgaredd gwaith arall, gallwch gadw hyd at 250 kg o dân gwyllt Math Perygl 4 neu hyd at 100 kg o dân gwyllt Math Perygl 3 (HT3) am hyd at 5 diwrnod yn olynol heb fod angen trwydded, ar yr amod eu bod yn cael eu cadw yn y lleoliad lle bwriedir eu defnyddio.

Sylwch, os rhoddir un tân gwyllt HT3 mewn storfa HT4, caiff y stoc gyfan ei dosbarthu fel HT3; o ganlyniad, bydd uchafswm cyfunol HT3/HT4 y gellir ei storio yn gostwng i 100 kg.

Os ydych am storio mwy o dân gwyllt na hynny, neu dân gwyllt mwy pwerus, bydd angen i chi gysylltu â'r Tîm Safonau Masnach i wneud cais am drwydded. Sylwch y bydd gofynion Rheoliadau Ffrwydron 2014 ynghylch storio tân gwyllt yn ddiogel yn parhau i fod yn berthnasol.

Manylion Cyswllt

Tîm Masnachol
Rhif Ffôn: 01495 369542
Cyfeiriad:  Diogelu'r Cyhoedd – Iechyd yr Amgylchedd, Tîm Masnachol, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN

Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk

Tîm Safonau Masnach
Rhif Ffôn: 01495 369542
Cyfeiriad: Diogelu'r Cyhoedd – Iechyd yr Amgylchedd, Tîm Masnachol, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6DN

Cyfeiriad E-bost: trading.standards@blaenau-gwent.gov.uk