Diogelwch Tân Gwyllt

Cynllun Cofrestru Arddangosfa Tân Gwyllt Wirfoddol a Rhad ac am Ddim 

A ydych yn cynllunio cynnal arddangosfa tân gwyllt? 

Os mai ‘Ydwyf’ yw’r ateb yna, os gwelwch yn dda, darllenwch y wybodaeth isod.

I sicrhau bod pawb yn mwynhau digwyddiad hapus yn rhydd o ddamweiniau, mae’r Cyngor yn rhedeg Cynllun Cofrestru Arddangosfa Tân Gwyllt Wirfoddol yn rhad ac am ddim ar gyfer y rheiny sy’n cynnal arddangosfeydd tân gwyllt yn yr ardal. 

Unwaith y derbynnir ffurflen gais wedi ei chwblhau, gwneir apwyntiad i gyflawni ymweliad safle cynghorol a gellid darparu rhai argymhellion ar gyfer gwelliant i’ch cynorthwyo i gynnal digwyddiad diogel. 

Cyflwynir Tystysgrif Gofrestru i geisiadau llwyddiannus. 

Os hoffech wneud cais am gofrestriad, cysylltwch â’r Tîm Masnachol – Amddiffyn y Cyhoedd. 

Cyfarwyddyd Tân Gwyllt Pellach 

Ymwelwch â gwefan Iechyd a Diogelwch yr Awdurdod Gweithredol am gyngor iechyd a diogelwch pellach ar drefnu arddangosfeydd tân gwyllt. 

Nid yw’r Cyngor yn trefnu, rhedeg nac arolygu’r digwyddiadau hyn. Mae trefnwyr y digwyddiadau hyn wedi gofyn am gyngor ar ddiogelwch oddi wrth y Cyngor ac fe’i darparwyd, yn unol â chyhoeddiadau Iechyd a Diogelwch yr Awdurdod Gweithredol, “Rhoi eich Arddangosfa Tân Gwyllt eich Hun. Sut i’w rhedeg a’i thanio’n ddiogel. Canllaw i ddiogelwch ar gyfer trefnwyr a gweithredwyr arddangosfeydd ta gwyllt”.

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Commercial Team

Rhif Ffôn: 01495 369542

Cyfeiriad: Public Protection – Environmental Health, Commercial Team, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN

Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk