Michael Foot

10 Stryd Morgan, Tredegar

Cafodd Michael Foot ei eni yn Plymouth ar 23 Gorffennaf 1913 i Isaac ac Eva (gynt Mackintosh) Foot, y pumed o saith o blant. Roedd yn ddisgybl ysgol rhagorol a graddiodd mewn Athroniaeth, Gwleidyddiaeth ac Economegyng Ngholeg Wadham, Rhydychen lle’r oedd hefyd yn llywydd Undeb Rhydychan.

Wedi’i fagu ar aelwyd o Ryddfrydwyr (roedd ei dad yn AS y Rhyddfrydwyr yn Bodmin), symudodd Foot at y Blaid Lafur.

Fe wnaeth gyfarfod gyntaf ag Aneurin Bevan pan oedd yn newyddiadurwr yn Tribune ac wedyn darbwyllodd Bevan yr Arglwydd Beaverbrook i’w gyflogi yn yr Evening Standard, gan godi i fod yn Olygydd yn 1942. Bu hefyd yn gweithio yn y Daily Herald a Tribune. Ar ôl sefyll yn aflwyddiannus ym Mynwy yn 1935 pan oedd yn 22 oed, cafodd ei ethol maes o law i’r Senedd yn etholiad cyffredinol 1945 fel aelod Plymouth Devonport. Ar ôl marw Aneurin Bevan safodd fel ymgeisydd Llafur yng Nglynebwy, gan ennill y sedd a’i chadw tan iddo ymddeol yn 1992. Yn y Senedd, bu’n Ysgrifennydd Gwladol Cyflogaeth 1974-76, Arweinydd y Tŷ 1976-79, Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur 1976-1980, Arweinydd Cysgodol y Tŷ 1979-1980 ac Arweinydd y Blaid Lafur ac Arweinydd yr Wrthblaid 1980-1983. O fewn misoedd o gael ei benodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cyflogaeth –ac mewn Senedd grog – pasiodd Foot un o’r deddfau pwysicaf ar gyfer hawliau gweithwyr yn hanes Prydain: Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, sy’n dal i sefyll fel y sylfaen dros ddiogelwch gweithle ac a ddefnyddiwyd i amddiffyn gweithleoedd diogel yn y pandemig coronafeirws.

Roedd ei gyfnod fel Ysgrifennydd Gwladol Cyflogaeth yn brysur tu hwnt, a gadawodd waddol sylweddol. Foot oedd yn gyfrifol am greu corff annibynnol ACAS, sy’n goruchwylio datrys anghydfodau cyflogaeth, Deddf Diogelu Cyflogaeth 1975 oedd yn diogelu rhag diswyddo am feichiogrwydd a darparu am dâl mamolaeth. Fe wnaeth hefyd ddileu darpariaethau gwrth undebau llafur a gynhwyswyd yn Neddf Undebau Llafur a Cysylltiadau Llafur 1974.

Fel Arweinydd y Tŷ gwelodd ddeddfau pwysig iawn drwy Dŷ’r Cyffredin: cynnydd mewn pensiynau a budd-daliadau, sefydlu Bwrdd Cwynion yr Heddlu, ehangu addysg gyfun, cyfrifoldeb statudol i ddarparu tai ar gyfer y digartref, budd-dal plant i bawb, grantiau i ganol dinasoedd, mwy o ddeddfwriaeth diogelwch gweithle, grantiau i insiwleiddio tai, Deddf Diogelwch Defnyddwyr 1978, creu undebau credyd, gwladoli’r diwydiant adeiladu llongau, dod â gwelyau talu i ben yn ysbytai’r GIG a sicrwydd tai ar gyfer gweithwyr amaethyddol.

Roedd yn ymgeisydd anfodlon ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur ar ôl sefyll i dawelu chwith ei blaid, enillodd fuddugoliaeth agos dros Denis Healey. Collodd Foot etholiad cyffredinol 1983 ac ymddiswyddo fel arweinydd y blaid, lle cafodd ei olynu gan Neil Kinnock, gan barhau’r cysylltiad gyda Tredegar. Arhosodd Foot fel AS Glynebwy tan 1992.

Ei gartref yn yr etholaeth oedd 10 Stryd y Farchnad, Tredegar, a dywedwyd yn aml mai dyma’r unig Rif 10 iddo gyrraedd. Dyma lle mae ei blac coch erbyn hyn.

Cadwodd broffil uchel fel ymgyrchydd gwrth-niwclear ac aelod o CND drwy gydol ei fywyd gwleidyddol.

Fel awdur caiff ei gofio’n hoff am ei fywgraffiad 2 gyfrol o Aneurin Bevan ac ysgrifennodd lyfrau hefyd ar yr Arglwydd Byron, H G Wells a Jonathan Swift.

Roedd yn briod â’r gwneuthurydd ffilmiau Jill Craigie, nid oedd gan y cwpl blant. Roedd yn gefnogwr gydol oes i Plymouth Argyle ac ar gyfer ei ben-blwydd yn 90 oed, fe wnaethant ei gofrestru mewn crys rhif 90 gan ddod y peldroediwr cofrestredig hynaf yn y gynghrair. Bu farw ar 3 Mawrth 2010 yn 96 oed gan ddod y cyn arweinydd hynaf erioed o blaid wleidyddol ym Mhrydain.

Michael Foot Plaque